Monday, October 22, 2007

 

y stori hyd yn hyn

helo,
ok, wsos dwytha. ar ol y trip valle camoniaca.

dydd llun... dim o bwys o bwys... ond dwi'n meddwl mai hwn oedd y dwrnod nes i fynd i'r clinic paedodontics a cael sgwrs efo hogyn eidaleg oedd yn dysgu saesneg yn yr ysgol. dyma ni'n cymeryd tyrna i ofyn wrth ein gilydd, 'beth ydi dy enw di?' 'faint oed wti?' 'lle wti'n dod o?' a.y.y.b yn ein tafod estron. nes i fwynhau hyn.

dydd mawrth... es ar y clinic oral surge a tynnu daint am y tro cyntaf yn yr eidal. yn y pnawn, gwers eidaleg. ac yn y nos, nes i fynd i'r clinic emergency (pronto soccorso) a ges i neud mwy o ddeintyddiaeth ar drigolion anffodus Brescia! nes i adal y clinic am 2300 a mynd i gwrdd a rhian y sbaenwyr ac yr albanwyr mewn tafarn o'r enw leo neu lio bar, sydd yn debyg iawn i clwb ifor ond ddim yn glwb nos, dim ond pub. Felly, be dwi'n olygu ydi fod o'n fudur, dingy, llond o gymeriadau od, ond yn chwarae miwsic da - gret! (ond does dim llawr dawnsio).

wedyn... dydd mercher, nath Rhian a fi drio mynd i wers ddeintyddiaeth yn y pnawn (wedi blino yn y bora), ond nath o gal ei ganslo, am y pedwerydd tro!!! wedyn, aethom ni i'r stryd a prynais gitar fach crap am 40 euro. pen dwi'n sdrymio y peth, dwi'n ofn iddo syrthio i ddarnau. ond mae o'n gwneud swn da wrth finger pluckio.

Dydd iau... es i mewn i clinic oral surge eto dwi'n meddwl. wedyn yn y pnawn, gwers eidaleg. wedyn yn y nos es i allan i seconda classe. ar ol yfad yn fflat fy ffrind spaeneg juan antonio neu 'juan-an' fel ei ffug enw. ond gan fod 'j' yn cael ei ddweud fel yr 'ch' gymraeg yn spaeneg, ei enw ydi 'Chwanan'... sydd dim ond yn diddori fi a rhian yn Brescia. Yn anffodus nes i ddim llwyddo mynd i mewn i seconda klasse, gan fod yna giw anfarth y tu allan. dyma'r math o glwb sy'n gadael y merchaid i gyd i mewn yn rhatach ac heb giwio, ond rhaid i'r dynion i gyd ddisgwyl tu allan yn rhynnu... blydi sexists. dim ots, nath yna chydig o hogia ddim llwyddo cal i mewn felly aethom ni i dy Adrian (sbaenwr arall), a cael parti bach yn fana. yn anffodus nes i syrthio i gysgu ar y soffa a dihunno y bora wedyn, rhy hwyr i fynd ar clinic.

Nos wener... nath rhian a fi fynd i dy 'chwanan' ac Isabel a cwcio bwyd iddyn nhw, (rhian nath wneud y cwcio i gyd). chwara teg.

dydd sadwrn... nes i reidio meic holl y ffordd i Lago di Garda, o Brescia i dref o'r enw Desensano del Garda. Ar y ffordd cefais seibiant mewn pentre o'r enw Lonato sydd yn berchen castell normanaidd a golygfa eitha da o Lago di Garda. ma'r Eidal yn llond adeiladau prydferth ac hynnafol, ond ma Cymru yn llond Castelli normanaidd tydyn, a doedd hwn ddim patch ar gastell cnarfon. Yn y nos, roedd Chwanan wedi trefnu i ni (fi, rhian, adrian, isabel, ac ei hun) fynd i barti ffrind i un o'r tiwtoriaid eidaleg.
(gyda llaw... yma, mae'r gair tiwtor yn golygu myfyriwr eidaleg sydd wedi gwirfoddoli neu gyda'r swydd o wneud pethau gyda y stiwdants erasmus eraill... fel aRFER, wps caps lock, ahh!!! maent yn stydio ieithoedd, neu hefo diddordeb mewn dysgu ieithoedd.)
Dyma ni'n mynd i fflat rhyw foi a'i gariad tua 20 kilomedr yn y wlad tu allan i Brescia. roedd cariad y boi yn sbaenes, ac felly dyma oedd y rheswm fod chwanan, isabel, ac adrian yn y parti. roeddwn i a rhian yn y parti oherwydd bod chwanan wedi trefnu i ni ddod. Ac felly roeddwn i yna, gyda rhian, mewn parti yn nhy rhyw Eidalwr ble roedd pawb yn y parti yn unai yn siarad Eidaleg neu yn siarad Sbaeneg. Ac i ddechrau o'n i'n meddwl... shit
ond... pen dwi yn y sefyllfa yma. ble ma rhaid i mi siarad eidaleg, dwi'n gallu gwneud yn olew. gyda body language a defnydd brawychus o'r berfau (dwi dal methu siarad yn y dyfodol neu y gorffenol), dwi'n gwneud yn olew.
ond ia... os dwi'n hollol onest, nath y sangria helpu hefyd!

eniwe... dydd sul, hangover , dim byd diddorol.

dydd llun... llawer o ddeintyddiaeth a dysgu eidaleg yn y pnawn.

dydd mawrth... ydi yfory so nai adal chi wbod sut mae o'n mynd.

Monday, October 15, 2007

 

germany

trio bookio tocynau i fynd i weld germany vs cymru yn yr almaen 21 - 11-2007 . mae o'n anodd - ryanair yn gwrthod cymeryd maestro's dwi'n meddwl.
gyda llaw - os ma rhywyn yn mynd i'r gem, yn Frankfurt (yng ngorllewin yr Almaen) mae'r gem! mae yna ddau Frankfurt yn yr Almaen.

oedd y penwythnos yn hwyl nes i fynd i valle camonica, dyffryn tua 2 awr ar y tren i'r gogledd o Brescia. yno mae'r casgriad mwyaf o rock inscriptions (inscrizione rocha dwi'n meddwl). oedd o reit ddiddorol ond roedd y guide yn esbonio popeth yn eidaleg a felly roedd yr erasmus kids eraill yn cyfieithu hyn i mi. mae yna rhai o'r erasmus yma yn siarad tua 3 iaith yn rhugl. dani'n siarad 2 yn rhugl, sydd yn eitha da. ond yn ysgol roedd gwersi ffrangeg yn joc a doedd na neb yn cymryd y pwnc o ddifri, i ddeud gwir does na ddim brwdfrydedd i ddysgu ieithoedd ym mhrydain, bechod. weithiau mae cymraeg yn helpu wrth ddysgu eidaleg rhywfaint, gan fod yna rai geiriau yn debyg. e.e. heddiw onin gwneud fy ngwaith cartref ar gyfer y wers yfory (rhannau o'r corff) ac roedd yna air - 'braccio' (neu rhywbeth tebyg) ac onin meddwl hmmm.... braich efallai - nes i edrych yn y geiriadur... a roeddwn yn gywir! mae hyn yn digwydd yn eitha aml, ond weithiau (nid cyn amlad) mae yna eiriau eidaleg sydd yn debyg i'r geiriau saesneg.
ond y peth rhyfadd yw.... mae nifer o ieithoedd sydd wedi tarddu o'r lladin yn ewrop : eidaleg, spaeneg, potiwgeaidd, romanian, ffrangeg, a mwy... mae spaeneg a romanian yn debyg iawn iawn i'r eidaleg, mor debyg fod y spaenwyr a romanians yn gallu dallt eidaleg ond ddim yn gallu siarad o'n iawn, ond pen maen't yn siarad eu mamiaith gyda'r eidalwyr, mae'r eidalwyr yn gallu dallt nhw ac ateb yn ol mewn eidaleg. da de!
felly mae modd iddynt gyfathrebu oleiaf.


ia... eniwe, 10 euro nath y trip gostio. sef tua 6 punt. roedd hyn yn cynnwys bwyd, llety, tren, ac y tour.... roedd y prifysgol wedi cyfrannu tuag at y trip. dwi ddim yn meddwl fysa caerdydd yn gwneud rhywbeth fel hyn i'w erasmus rhywsut. yn y nos roedd yna barti yn y hostel, onin teimlo yn flinedig iawn felly nes i fynd i gwely tua 1 . mae hyn yn gynnar - gan fod y gweddill wedi arfer mynd allan yn spaen ayyb tan tua 7 yn y bora (dyma pryd ma'r clubs yn cau yn ol y son!)

eniwe, son am wedi blino, dwi wedi blino rwan ac am fynd i weld beth ma'R Arglwydd yn neud. clinics am 9 bora fory
ciao vediamo

Friday, October 12, 2007

 

I'm sleeping with Jesus !

i fod yn onest, tydi'r teitl ddim angen ochenaid ??? un o'r rhain !!!!!! achos ma'r frawddeg yn hynod gryf hebddo. eniwe, dwi ddim yn cofio be nesh i sgwennu tro dwytha, rhywbeth am gyradd yn ddiogel ia? onin meddwl fysa fo'n hawdd cadw blog yma, ond tydio ddim, dwi wastad hefo rhywbeth gwell i neud. mae gennai fynediad i'r we yma yn ISU, fy nghartref newydd "mia casa" mewn stafell gyfrifiaduron ar y llawr gwaelod. ar y penwythnos ma'r blydi lle wedi cau! pam? dwi ddim yn gwbod!

ond... mae na lot o bethau yn yr eidal sydd ddim yn gwneud dim synnwyr, e.e. tu allan i'r banc mae yna lockers, ble rhaid cadw pob bag neu cot ac yn y blaen, a mynd i mewn trwy dau ddrws wedi eu rheoli, mae o'n deimlad od siarad a'r bancwr heb haenen o wydr rhwngthom, ond bysa fo'n hawdd cerdded mewn gyda gwn neu cyllell mewn poced! rhywbeth arall... ar ddydd llun mae yna llawer o siopau ar gau! pob dydd mae y siopau yn cau rhwng 1300 a 1500 hydynoed dydd sadwrn! chwara teg... ma nhw'n gwbod sut i ymlacio

beth bynnag, Iesu, yr argwydd, mab Duw, dynna yw enw y hogyn spaeneg yr ydwyf yn rhannu stafell gyda rwan. felly, ie! dwi yn cysgu hefo'r Iesu. datganiad yr ydwyf yn or-hoff o ddatgelu !!! felly ma'n spaeneg yn gwella, ac eidaleg! a ma saesneg yr Iesu yn gwella hefyd. dio ddim yn dallt cymraeg. mae o'n foi iawn gyda llaw... wel wrthgwrs gyda enw fel'na!

dydd iau dwytha neshi symud. gadael neuaddau francescanum am byth! ond dwi'n hoff o'r lle newydd, o'r enw ISU! yma mae yna gaeau peldroed, cyrtiau tennis, lle bwyta hyfryd, ac felly mae bywyd yn dda! onin meddwl fysa fo'n od iawn rhannu hefo hogyn arall, mae'n gwlau yn agos iawn (llai na hanner metr!) ond dio ddim rhy ddrwg ogwbl. erstalwm onin rhannu gyda Ioan nes iddo gael stafell ei hun pen oni yn tua 10 mlwydd oed, ers hynna dwi heb rhannu stafall hefo hogyn arall. yn ol y son... mae o'n rhywbeth arferol i wneud yma yn yr eidal ymysg myfyrwyr. wel... dwi'n meddwl bo' nhw'n rhannu yn pantycelun tydynt? ond fel ma nhw'n deud - aberystwyth... aberth am byth.

nesh i brynnu beic. wedyn dwrnod cyn ech-ddoe nath y beic gael ei ddwyn. felly ech-ddoe prynnais feic newydd. nesh i fynd i'r orsaf heddlu i ddweud wrthynt am y trychineb. profiad poenus trahwnt ond roeddynt yn dda iawn. union ry'n beic nesh i brynnu ond wsos yma roedd yn a 30% off (gratis), diolch! diolch yn fawr!

eniwe dwi'n mynd am ginio rwan ciao!

Wednesday, October 03, 2007

 

wedi cyraedd Brescia yn ddiogel

Ella fod hwn braidd yn hwyr. heddiw yw'r 3ydd o Hydref, cyrhaeddais ar yr 20ed o fis Medi. Ond ma na lot o betha i neud yma. wsos dwytha nes i drio bloggio ond oedd y cyfrifiadur yn cloi pob tro oeddwn i'n ceisio. dwi wedi llwyddo dod o hyd i gyfrifiadur sy'n gadal i mi floggio o'r diwadd!

Dwi wedi llwyddo yn yr arholiadau! nath neb yn y flwyddyn fethu, 58 wedi pasio. does na neb wedi methu ers i'r curriculum newydd ddechrau, rhyfadd de?

wsos dwytha nes i neud lot o bethau. y broblem ydi - tydw i ddim yn cofio popeth. mae'n cymryd amsar i setlo mewn yn rhywle tydi, a wsos dwytha nes i neud hynna, ymmm.... setlo mewn.
Cyrhaeddais Brescia pnawn dydd iau, cawsom ein cyfarfod yn yr orsaf dren gan ddau fyfyriwr deintyddiaeth o'r bumed flwyddyn yma, Carlotta (fatha band cynta' elin fflur) a Stefano. Yn y pnawn aethon nhw a ni i weld y clinic. dwrnod wedyn aethon nhw a ni i sortio papurau accommadation ac erasmus allan a nifer o fanion eraill, felly diwrnod diddorol uffernol!! wedyn roedd hi'n benwythnos!!!! wehai... bu rhaid i rhian a fi esgusodi ein hunain o barti erasmus nos iau gan ein bod ni wedi blino'n lan, felly nos wener oeddan ni yn fresh a barod i fynd allan. ond, roedd pawb arall yn knackered ar ol y nos wener - felly nathon ni just gwylio gem iwerddon a ffrainc gyda'r albanwyr a cal peint ddistaw yn piazza arnaldo! ***piazza arnaldo; ydy sgwar arnaldo, lle posh uffernol, ma peint yn costio 5 euro a mae pawb wedi gwysgo yn smart, lle swank iawn i weld.
I ddeud y gwir tydw i ddim yn cofio be nes i neud am gweddill y weekend. nes i fynd allan nos sadwrn efo gweddill yr erasmus crew - dwi'n cofio hynna oleia'. a nes i gerddad lot ogwmpas y ddinas, fatha dwi wedi ddeud o'r blaen - y ffordd gorau i ddod i nabod dinas ydi i gael ar goll ynddi hi a mae'n hawdd gwneud hyn yn brescia! ma'r ddinas ychydig yn fwy na caerdydd dwi'n meddwl. ond mai'n anodd deud achod bod y subburbs just mynd on am oesoedd. ma'r computer room yn cau rwan ciao

Saturday, May 26, 2007

 

ailddechrau anturiaethau rhys a'r byd, rhys a brescia

onin meddwl sa hwn wedi expirio erbyn hyn
Ma taith haf 2006 yn teimlo fel oes yn ol rwan.
oni wedi'n synnu arol dod adra faint o bobl oedd wedi bod yn darllan y blog. tua pythefnos/tair wsos yn ol, nath rhywyn ddeutha fi "dylsa chdi brintio y blogia allan a gyrru nhw i wasg i drio cal nhw wedi cyhoeddi"!
eniwe... dwi mynd i drafeilio eto mis medi. dwi'n gobeithio mynd i Brescia yng ngogledd yr eidal ar erasmus am dri mis. felly fyddai'n dechra sgwennu eto yn fuan

o ia... ma'r X mewn LA X mwy na thebyg i fod yn rhyw fath o groesffordd.

Saturday, September 16, 2006

 

LA X

Pam bod nhw'n galw'r lle ma'n LA X? Be ma'r X yn sefyll am?

Dwi di gwario'n 3 dolar dwytha ar yr internet a ma gen i 4 munud ar ol. Felly un byr fydd hwn. Dwi'n hedfan am 17-20 a fyddai'n glanio am tua hannar dydd fory. Edrach mlaen i gyrradd nol. CColeg dydd llun. Dim ond 52 eiliad ar ol... ta ta

Wednesday, September 13, 2006

 

Santa Monica, LA

Dwi'n aros mewn HI International Los Angeles - Santa Monica, sydd 2 funud o walk o MUSCLE BEACH. Dwi di bod yna yn barod, fatha scene allan o baywatch, sureal iawn. Dwi di bod yma tua 4 awr ac ma'r americans arrogant loud yn dechra mynd ar nerves fi'n barod.

This page is powered by Blogger. Isn't yours?