Friday, July 28, 2006

 

Consulate General of India Birmingham

Dyma lle dachi'n mynd os dachisho visa i fynd i India.

Es i yna ddoe. Dwrnod uffernol, yn sicr yn y top 5 o ddiwrnodau mwyaf anlwcus fy mywyd. Nes i ddanfon Niz i faes awyr Caerdydd am 4 o'r gloch y bora, wedyn ar y ffor nol nath y car dorri lawr yn tesco extra (allai fedddwl am lefydd gwaeth i dorri lawr, mae hwn yn gorad 24 hours!). Nes i ffonio'r RAC a dyma'r ddynas yn deud fod y cerdyn wedi dod i ben ddoe! Ond nath hi yrru y boi (paul) allan beth bynnag. "Fydd o yna erbyn hannar awr wedi chwech" medda'r ddynas, "wel iawn de" beth arall allwn i neud ond disgwyl, edrych o gwmpas tesgo's, prynnu rucksack tesco value (ma hwnna'n mynd i dorri), a tynnu passport photo's. Nath y boi gyrradd am ugian munud wedi chwech (deg munud yn gynnar!). Nes i ofyn wrth y boi os oedd o di dod o bell, "Fairwater, first call of the day" medda fo. Be!!!! Os dachi'n nabod Gaerdydd ogwbl fyddech yn sylwyddoli fod Fairwater yn llai na chwarter awr o Tesco extra. Oni di bod yn disgwyl am bron ddwy awr. Felly unai oedd y boi di bod yn ei wely am tua awr a hannar neu fod o'n cymryd awr a hannar i'r boi yma godi, molchi, cal brecwast, brwsho'i ddannedd a cychwyn o'r ty, penderfynwch chi! Er ei fod o'n gwbod be oedd y broblem, oedd rhaid disgwyl tan 9 er mwyn cal y partia priodol! Yr high temperature spark-plug cables oedd y broblem i'r rhai ohona chi sy'n gwbod rwbath am geir. Ac i'r rhai anwybodus yn ein mhysg (gan gynnwys myfi, hyd at ddoe!) rhei'n sy'n cario'r spark i'r spark-plugs. Felly disgwyliais tan 9 i halfords agor imi gael prynnu a ffitio y partia.
Wedi cal y partia, tanwyd y car a ffendwyd mai dim dyna be oedd yn bod efo fo wedi'r cwbwl, oedd y car dal i ratlo fel gwenyn cacwn blin iawn! Oni rhwng dau feddwl gadal y blydi car a neidio ar y tren i Birmingham. Ond, ffonio'r RAC neshi yn y diwedd, am yr ail dro (er fy mod i wedi colli pob ffydd ynddyn nhw erbyn hyn ac yn eitha byr fy nhymer efo'r ddynas ar y ffon). Wel, does na neb yn licio torri lawr na? a ma torri lawr dwy waith yn waeth. Oni di bod yn yr un carpark am tua 4 awr! Ta waeth, trwswyd y car yn diwedd, y coil oedd y bai, hwn sy'n rheoli y sparciau.
Cyrhaeddais Birmingham a ffendio'r consulate yn eitha hawdd. LLe eitha di seremoni oedd o, plaen iawn, a fflag India yn hongian tu allan i'r adeilad. Tu mewn, i fyny'r grisia, roedd ystafell fawr efo lot o gadeiria ac ambell i fwrdd yna. Roedd yna nifer o gabinets llawn llyfrau am India, a oedd eitha diddorol yr olwg, ond roedd y cabinets wedi'u cloi, felly allai mond dychmygu pa mor ddiddorol gallai y llyfra 'ma wedi bod. Pam bod y cabinets di cloi? Tra'n disgwyl yn amyneddgar i gael rhoi fy nghais am visa i'r consulate, tra'n eistedd wrth un o'r byrddau dechreuwyd sgwrs gyda'r hen ddynas Asian yma a oedd yna gyda hogan ifanc (ei wyres amwn i). Gofynodd hi "Are you a student?", "Yes" medda finnau, a dyma hi'n ateb "I could tell you're a student". Yn dilyn hyn, dechreuais synfyfyrio. Dwi'n cofio mynd yn y car ar ddydd sadwrn drw Bangor Uchaf pen oeddwn i yn fach a chwara gem o 'spot the student' gyda Ioan ac Elin. Roedd y gem yn gweithio'n debyg iawn i'r gem o ddewis lliw car a cyfri y nifer o geir o'r lliw yna, neu'r gem arall hynod boblogaidd 'pwy allai 'spotio' y mwyaf o goed dolig ar y ffordd adra o dy nain'. Unwaith oedd un ohonym wedi 'spotio' coeden dolig doedd dim hawl gan y llall gyfri y goeden yna fel 'spot'. Ond yn hytrach lliw car neu coedan, y targed oedd y stiwdant druan! Pwy bynnag oedd wedi 'spotio' y mwyaf o fyfyrwyr erbyn cyrradd Bangor Isaf oedd yr enillydd. Sgwn i be oedd y stiwdant darostyngedig yn feddwl wrth weld tri sprog haerllug yn pwyntio bys ato fo ac ymladd yng nghefn y car dros pwy oedd wedi "'spotio' fo gynta!".Ydw i'n un o'r pobl yma mae pobl yn edrych arnynt ac yn meddwl... "stiwdant". Dwi'm yn meddwl. Derbynnwyd fy nghais am visa ac onin cychwyn ar y ffordd adra i Fronheulog erbyn tua 4 yn pnawn. Roeddwn i wedi synnu mod i'n gallu derbyn Radio Cymru ar y radio tua pum milltir ir Gorllewin tu allan i Firmingham. Doedd gennai ddim map ond defnyddiais yr haul, ac anelu ychydig i'r dde ohono fo, ffendiais yr A5 yn diwedd! Dwi adra rwan yn Fronheulog, tan Dydd Llun, dwin hedfan Dydd Llun am 22-00 o Heathrow wrth gwrs. Mai'n neis cal dipyn o frec cyn mynd.

Aeth dad a minnau i Langefni a Bangor heddiw, cefais dravellers cheques, cerdyn tren ar gyfer Dydd Llun a sony 6 million pixels digital camera! oedd y boi yn siop, (cofi go iawn) yn deud "fod lens gwell ar gamerau sony" de cont. Ma'r camera hefyd yn defnyddio ru'n memory card (sony memory stick) a fy ffon, bonws! presant penblwydd oedd y camera. Ges i insect a mosquito repellent tesco's 'fyd, ond ma dad yn deud fyddai ddim angen insect repellant y ffordd ydw i'n rhechan!

Gyda llaw, mae safon gramadegol y blog yma yn eitha da gan fod mam wedi darllen drwyddo fo i mi. Peidiwch a disgwyl post arall mor ramadegol gywir achos fydd gennai ddim spell-check personol gyda mi y tro nesaf dwi'n postio neges. Os fydd safon y Gymraeg braidd yn siomedig o hyn ymlaen, wel, fe gawsoch eich rhybuddio. Ewch yn ol i gynghaneddu y lwsars!

Wednesday, July 26, 2006

 

test

helo a chroeso i fyd rhys, blog argyfer fy nhaith haf 2006. Dwi mynd i Delhi, Singapoore, bancock, australia, seland newydd a Los Angeles. Ma'r daith yn cychwyn o Heatrhrow (terminal 3) ar y 31ed o fis gorffenaf ac yn diweddu yn yr un fan ar y 17ed o fis medi.

Prif bwrpas y blog yma ydi i mi gal cofnod o'r daith pen dwi'n cyrraedd adra, ma'n haws na cario dyddiadur ogwmpas! Hefyd geith pobl sy'n fy adnabod gadw fyny hefo lle ydw i a be dwi neud.

eniwe, mashwr nai'm postio eto nes imi hedfan dydd llun. Dwi off rwan i ffendio rhif yr indian embassy yn birmingham, achos yn ol son fel ddudodd owain i mi neithiwr mae angen visa i gal mewn i india???????!!!!!!! o wel ella fydd rhaid imi neidio dros y ffens a la wakestock

This page is powered by Blogger. Isn't yours?