Friday, August 25, 2006

 

flickr.com

http://www.flickr.com/photos/91693490@N00/

ma gen i lynia ar hwn. dal ddim yn deallt sut i wneud links a dim amser i ffidlo. Ma bwch wrthin cwcio fry up i mi yn y hostel wan. Dwi, Bwch a Gareth Nelson yn aros yn yr ry'n dorm mewn hostel yn Kings Cross (red light district Sydney). Ma Sion Lloyd yn aros mewn ty just lawr lon, ma Gadsby mewn ty tua 20 munud allan o sydney, ac yfory ma Tex yn dod yn ol i Sydney. Ma na fwy o hogia Ynys Mon yma na sy' na o Ozzies!!

Monday, August 21, 2006

 

Singapore Changi Airport part deux

Does dim byd llawer mwy annoying na beiro sydd ddim yn gweithio pan dwi really angen iddi weithio.

Tua wsos neu fwy yn ol, tra'n gorfedd yn y gwely yn y backpackers cozy corner hostel yn Singapore cefais rhywbeth tebyg i be ma pobl grefyddol yn alw'n droedigaeth dwi'n siwr. Sylweddolais yng nghanol y nos mod i heb lenwi mewn fy ffurfleni ar gyfer cal benthyciad myfyriwr ar gyfer mis medi. Felly ar hyn o bryd dwi ar y cyfrifiadur ym maes awyr singapore yn disgwyl am y connection i Brisbane yn llenwi fewn ffurflen on-line am fenthyciad. A mae o'n eitha hawdd ond di'r blydi beiro 'ma ddim yn gweithio!!

Ges i'm cyfle i weld llawar o bangkok ei hyn, nesh i gyrradd bora dydd Sul, cysgu dipyn, mynd am dro yn y pnawn, gweld chydig o demlau (oedd yn crap i gymharu a temlau a mosques a llefydd yn India) a mynd am fwyd gydar nos efo hogan ma oni di gyfarfod o cambridge. Wedyn deffro bora heddiw a mynd i'r maes awyr a fflio i Singapore.

Ma'n neis bod nol yn Singapore er mod i mond yma am tua 2 awr. Ma popeth yn lan. Ma'r toiledau yn fflysho yn automatic! di'r sebon a papur byth wedi rhedag allan! ma'r drinking fountain hydnod yn automatic! mae o'n wych. A dwi'n fflio i Brisbane gyda Singapore Airlines! woohoo!

O/N edrach mlaen i weld Bwch

Friday, August 18, 2006

 

Mynd i Bangkok

Dwi di checkio allan o fyngalow y brodyr thai. Di cal brecwast ar y traeth, a di gwneud fy ffordd i'r internet cafe i mi gal llwytho fy llynia ar CD a deud helo i chi bobl bach yn telly-land! (J-rod)

Es i Kayakio dydd Mercher, mewn rhyw lagoons a coedwig mangrove oedd yn llenwi efo dwr mor pen oedd y llanw'n uchel a felly roedd posib kayakio o dan y coed a drwy y goedwig. Pob hyn a hyn reoddan ni yn taro ar dylwythi gwahanol o fwnciod (long tail makaks), ac yn bwydo ffrwytha iddyn nhw. Petha barus iawn ydi mwnciod ac os oedd llawer o fwyd ar eich cwch roeddan nhw'n tueddu i neidio'n wyllt ar eich kayak gan bron troi y kayak drosodd.

Dydd Iau es i Sgwba deifio, ond dim ond yn y pwll. Oedd rhaid fi ddysgu rhyw stwff am air pressure hefyd ermwyn pasio'r prawf. Wedyn dydd Gwener ges i fynd i ynysoedd Phi Phi a sgwba deifio ar y coral reef, nes i ddim gweld siarc yn anffodus! Ond welis i LionFish, Scorpion Fish, clown fish a llwythi o bysgod prydferth eraill. Oedd sgwba deifio yn wych ond doedd o ddim mor egseiting ag o'n i wedi ddychmygu fo. Dydio ddim mor gyffroes a mae on edrach mewn ffilm James Bond. Dwi rwan yn PADI certified Sgwba diver, beth bynnag ma hynna'n feddwl.

Nos Iau, od iawn. Cwrddais a tair hogan oni wedi dod yn gyfeillgar gyda nhw ar y trip kayakio, a dyma ni'n mynd am fwyd i ryw Italian. Eniwe, ar ol cal bwyd athon ni i'r bar 'ma, eistedd lawr a cal chydig o ddiodydd. Ar ol ychydig dyma Ffion a Meleri yn cerdded mewn i'r bar!! Oni wedi synnu i weld nhw, onin gwbod fod nhw yn Thailand ond byth wedi dychmygu sw'n i'n jysd bympio mewn iddyn nhw fel hyn. Dyma ni gyd yn mynd allan i'r ry'n lle, a mi oedd nos Iau yn noson dda. Dwi'm yn cofio pryd es i gwely, ond roedd rhaid i'r pobl sgwba deifio ddeffro fi trwy gnocio ar fy nrws am 8! Dwi meddwl bo fi dal wedi meddwi ar y dive cynta', onin teimlo'n eitha sal ar adegau hefyd a dwim yn gwbod be swn i di neud petawn i wedi chwdu o dan y dwr! Sa visibilty wedi bod yn wael wedyn! Ond ni chwdais, diolch byth, ac erbyn yr ail ddeif yn y pnawn onin teimlo lot gwell ar ol cal cinio a cysgu chydig ar ddec y gwch. Oedd un o'r dive masters yn wreiddiol o Llanfairpwll, Ian Owens oedd ei enw, yn siarad cymraeg, yn ei dridegau swnin deud, a wedi bod yn blisman am yn hir cyn ymfudo yma i Thailand i gal deifio bob dydd o'r flwyddyn, braf de.

Neithiwr, ar ol cael fy mhapurau wedi sortio, yn deud mod i'n PADI certified sgwba diver (swnion dda dydi!). Nes i fynd i gwrdd a Ffion a Meleri a cal bwyd efo nhw, yn yr ry'n Italian eto (ma'r pizza's yn dda yna!). Wedyn athon ni weld Thai Boxing, onin disgwyl rhywbeth lot mwy violent nag oedd o. Tra'n gwylio'r bocsio nath Meleri ddeud "pam dydi nhw ddim yn neidio oddi ar y corneli a taflu gilydd a bownsio oddi ar y rhaffau?" dyma Ffion yn atab "ym... reslo di hwnna sti."

Ia, next stop Bangkok. Bys yn gadal am 4 heddiw ac yn cyradd am 6 bora fory, ond dwi meddwl mod i'n cal gwely sydd yn iawn. Os ddim nai gysgu yn yr aisle.

Tuesday, August 15, 2006

 

'Sa-wad-di!'

Dyna sut mae deud helo mewn Thai.

Cyrhaeddais Thailand ddoe tua 12-00 ar y dot. Ma'r wlad yma fel petai rhywle yn y canol rhwng India a Singapore. O rhan hynny, dwi'n golygu fod yna Tuk tuks (fel y rickshaw's/wallah yn India) yma ym mhobman sy'n gofyn am i chi os yda chi isho lifft i rhywle, ond ma nhw yn lot llai garw a ddim yn eich harrassio chi am bum munud fel oedd yn digwydd yn India. Na ydi Na iddyn nhw, (wel, 'Nai Chai' i fod yn gywir). Felly ma'r bobl yn wahanol, llawer mwy croesawgar, ffeind a gonast i weld. Er fod rhan fwyaf o'r bobl yma hefo dealltwriaeth tebyg i blentyn dwy-flwydd oed o'r Saesneg, mae yna swyddogion twristiaeth arbennig mewn safleuoedd cyhoeddus fel y maes awyrenau, trennau a bysus, felly mai'n bosib i Gymro hefo mentality hogyn dwy-flwydd oed ffendio'i ffordd yn ddigon di drafferth! Ma'r wlad wedi arfer a twristiaeth ac yn fwy na parod i dderbyn twristiaid, yn wahanol i India lle onin teimlo mod i'n sticio allan fel iar yn y glaw, neb yn trio fy helpu a pawb yn trio nghonio i! Ond yn debyg i India mae yna dlodi amlwg yma (ond nid i'r ru'n raddau ogwbl) a dylswch chi ddim yfed y dwr! Ma'r trennau yn debyg iawn i rai yn India hefyd, hynafol a hir!

Penderfynais ddal y tren nos o Bangkok i lawr i dde Thailand, angen chill am chydig o ddwrnodia a ddim isho bod mewn dinas brysur. Oni ddim yn siwr lle yn union oni am fynd, ond gyda dyrniad o daflenni gwybodaeth ar yr ynysoedd ac arfordir deheuol neidiais ar y dren i Surat Thani. Ma gwibio drwy'r wlad yng nghanol y nos mewn sleeper train yn brofiad gwych, ges i'r bync top!!! Y ffenestri gyd yn gorad a'r gwynt cynnes yn dod drwy y ffenestr ar nos yn ddu fel bol buwch, gwych! Pawb wedi ymlacio ac yn mwynhau scwrs a peint cyn setlo lawr am y noson a taith o tua 11 awr o'm mlaen. Cefais gwmni cwpwl o ogledd Lloegr, rhywle ogwmpas Newcastle oedd yn cysgu yn y gwlau dros y ffordd i mi, a gafon ni seshiwn fwydro hir. Cynnigion nhw os fyswn i'n hoffi mynd hefo nhw i lle oeddan nhw'n mynd, ynys Koa Pha-Ngan gan fod gen i ddim pen pendant i fy nhaith a mod i ar ben fy hyn. Ond ni dderbyniais, er bod nhw'n bobl clen, onin meddwl bysai'n od iawn hangio rownd efo cwpwl am dri dwrnod, fel rhyw gwsberan!

Ar ol darllen y taflenni a chydig o lonely planet y cwpwl, penderfynnais fynd i ynys or enw phuket a prynais docyn yn Surat Thani. Onin disgwyl yn yr orsaf bysus am eitha hir efo criw eitha mawr o bobl, dyma na fys yn cyradd oedd yn mynd i Krabi (oni di darllen am fyma, lle gwych i fynd i ddringo clogwyni, sgwba deifio a kayakio yn ol y son). Nath pawb yn yr orsaf heblaw am dana i godi a mynd ar y bys, "ffwcio hyn" meddyliais "dwim yn disgwyl yn fyma ar ben fy hyn" felly dyma fi'n mynd ar y bys i Krabi. Ac erbyn hyn dwi yna.

Dwi di ffendio bwthwn bach tua 3 munud o'r traeth, gan gerdded, am 300Baht y noson (ma punt yn hafal i 70 Baht). Dim air-con, ond well gen i heb. Dwi di dechrau cassau aircon erbyn hyn, pen dwi'n cerdded mewn i stafell neu fys/tren aircon mewn shorts a crys t mai'n blydi oer! Ma'r tirlun yn wych yma, creigiau anferth a garw yn codi'n serth o'r mor. Traethau tywod gwyn, di bendraw (eira-dywod go iawn, ddim fel Sentosa). A llwythi o ynysoedd bach bach, dirgel i weld tua milltir i ffwrdd o'r traethau. Ynysoedd fel ynys 'Lost'.

Fory dwi'n mynd i gayakio ogwmpas un o'r ynysoedd hyn. Dydd Iau a dydd Gwener dwi mynd i ddeifio sgwba os ma'r tywydd yn caniatau. Nath hi fwrw glaw lot heddiw a ma'r mor yn arw ofnadwy, a ma hi'n gaddo ry'n peth am tua 3 dwrnod yn ol y son, bechod fod gen i ddim surfboard! Y plan ydi mynd yn ol i Bangkok nos wener neu nos sadwrn i gael gweld chydig ar y ddinas fawr ddrwg! Cyn dal yr awyren i Awstralia dydd Llun, dwi'n erdrach mlaen i weld Bwch.

O ia, just iawn i mi anghofio! Ma'r lle dwi'n aros ac y bar drost y lon yn cael ei redeg gan dri brawd Thai cnau ond cyfeillgar iawn yn eu hugeiniau, ma un ohonynt yn rasta, felly wrth gwrs mae yna lynia o Bob Marley mhobman yn y bar! Ar ol i mi gyrradd a cael cawod pnawnma, nes i eistedd hefo'r hogia o dan y dent yma yn y bar yn mochel rhag y glaw, oedd yn tresho ar y pryd. Oddan ni'n cal sgwrs a dyma'r gitars yn dod allan a llyfr caneuon rock Thai a llyfr caneuon Beatles, sweet! Oedd un gitar yn gitar Yahama (210 dwi meddwl), a'r llall yn gitar ond wedi llinynu a llinynau bas a dyma ni yn dechrau canu Let It Be a Stand by Me tra oedd y glaw yn curo i lawr. Dwi'n gobeithio dysgu can Gymraeg iddyn nhw cyn i mi adael! Wedi i'r glaw gilio es i gerdded o gwmpas y traethau a'r pentref i gal fy mearings, dwi wastad yn meddwl na'r ffordd gorau i ddod i nabod rhywle ydi cal argoll a wedyn trio ffendio'r ffor yn ol. Map? dwi'm angan map!

Hwyl am y tro! dwi mynd i ddal fyny efo'r cwsg dwi heb fod yn ei gael dros y deuddydd dwytha.

Sunday, August 13, 2006

 

Maes Awyrennau Changi, Singapore

Dwi yma unwaith eto, wythnos yn ddiweddarach ym maes awyrennau Changi. Ma Singapore yn cwl.
Wrth lwc nes i ddim cyfarfod unrhyw siarcod neu anffawd y dyfnderoedd dydd Gwener. A dydd Sadwrn o'n i'n teimlo ddigon dewr i fynd i'r traeth unwaith eto, ond traeth gwahanol y tro hwn. I'r de o Singapore mae yna ynys fechan o'r enw Sentosa, tua 2 filltir o hyd a lled. Mae hi'n andros o brydferth a mae yna draethau yna hefo tywod gwyn fel eira. Ma'r lle wedi'i or-ddatblygu (dwin amau fod yr eira-dywod yn fake) ond yn dda er gwaetha hyn, fel popeth yn singapore mai'n hawdd ffendio'ch ffordd ogwympas ar y bysus 'am ddim' sy'n danfon pobl ardraws yr ynys. Mae ski lift yn danfon pobl o singapore i'r ynys yma sy'n gyfle gwych i gael golygfa dda o singapore a'r porthladd o'r awyr! Wedi cyrraedd yr ynys es i weld underwater world ac yna sioe dolffins, waw ma nhw yn anifeiliad clyfar. Tra yn y sioe cwrddais a gwr a gwraig oedd wedi ymfudo i Perth, Awstralia (doeddan nhw ddim yn nabod Ffranc!), ond yn wreddiol o Gaerdydd. Oedd y cwpl yn arfer byw ar Woodville Road a rhedeg y siop sglodion the woodville fish-bar. Dyma lle oedd Owain a Huw, a weithia Potter a minnau yn mynd am sglodion yn yr ail-flwyddyn ar ol chwaraeon dydd mercher. Byd bach de!

Nos wener a nos sadwrn roedd yna fwy o sioeau tan gwyllt yn y ddinas. Drost yr wsos dwytha ma'n rhaid mod i wedi gwylio gwerth miloedd ar filoedd o dan gwyllt yn llosgi yn yr awyr. Oedd arddangosfa nos wener yn arbennig, roedd y tan gwyllt yn ffrwydro dan gyfeiliant miwsig! Nos sadwrn, yn yr hostel cwrddais a hogyn o Ffrainc, Sylvian, oedd newydd symud i mewn i'r bync bed uwch fy mhen. Dwi di treuylio'r ddau ddiwrnod dwytha hefo fo a newydd ddeud au-revoir gan fod ei awyren o yn hedfan i Perth am 09-30, a minnau ddim yn mynd tan 10-40. Nos Sadwrn athon ni allan, a diweddon ni yng nglwb nos y ministery of sound singapore, sydd yn le gwych gyda nifer o stafelloedd dawsio hefo genre's gwahanol ym mhob un. Treuliais fwyafrif y noson yn y stafell 'ddisco', wrth gwrs! Ma mynd allan yn Singapore fel mynd allan adre ond llawer drytach. Tydi cwrw ddim yn ddrud i brynnu o siop, ond mewn pyb neu clwb ma peint yn gallu costio tua S$15.

Dydd Sul es i nol i ynys Sentosa gyda Sylvian a gwneud dim byd ond darllen a cysgu ar y traeth a nofio chydig. Dwi'n darllen llyfr gan Ben Elton nesh i brynnu dwrnod o blaen am s$16, The first casualty, llyfr da. Neithiwr, nos Sul, cefais fwyd yn un o'r nifer o food courts sydd yma, dwi di bod yn byw ar fwyd y food courts yma am wythnos nawr, deud y gwir . Ma'r bwyd yma yn wych ym mhob man, os dachi'n licio bwyd tseiniaidd yna byddech chi wrth eich bodd yn Singapore, ond os dyda chi ddim ma na fwydydd yma o bob rhan o'r byd. Cefais granc nos sadwrn, ond doeddwn i ddim yn hoff iawn ohono. Ma Sylvian wedi deud fod y bwyd yn hydnod gwell yn Thailand felly allaim disgwyl! Wedyn aethom ni am lymaid bach yng Nglarke's Quay (Clarke's Quay ydi'r lle ma'r tourists ifanc yn mynd allan), ond dim llawer gan mod i eisiau codi bora ma.

A dyna ni, dwi'n eistedd yn y maes awyr yn disgwyl am yr awyren, hefo hiraeth am Singapore yn barod!

Thursday, August 10, 2006

 

Penblwydd Hapus Singapore!

cyrhaeddais Singapore dydd mawrth am tua 6 o gloch y bora. Gysgais yn dda am tua 5 awr ar yr awyren, felly do'n i ddim wedi blino yn ormodedd, teimlo fel mild hang-over. Oni ddim wedi gwneud llawer o ymchwil ar y lle cyn cyradd, mond wedi clywed hanesion gan chydig o bobl "it's so clean you can eat off the streets" a wedi prynnu llyfr supplement i gyd fynd a rhyw fagasin yn faes awyr delhi oedd am dan Singapore.

Ma Singapore yn gret. Ma'r lle yn lan, twt a thaclus a diogel. Dwin aros mewn hostel eitha basic ar hyn o bryd am tua S$10 y noson sydd yn tua 3.33333 punt. dwi ddim hydnod efo ystefell, dwin cysgu mewn byncbed yn y corridor! Deos na'm drws ar ffrynt yr hostel a dim swyddog diogelwch ar yr adwy, ond dim ots, ma'r lle yn hollol saff. Ma'r bobl yma i weld yn bobl onest a chyfeillgar a wastad yn trio helpu (pen dwi'n gofyn y fordd i rhywle er engraifft). Yn ol y son gellid cael dirwy o tua s$5000 o bunnoedd am dalfu ysbwriel, felly o ganlyniad ma'r strydoedd yn spotless. Dwi'n dychmygu fod y gosb am droseddau eraill yn eitha drwg hefyd, felly ma'r lle yn eitha heddychlon a does dim troseddu i weld yn amlwg yma.

Ma dylanwad americanaidd i weld ym mhobman yma. Ma'r bobl yn trio siarad efo acen americanaidd yma a deud "have a nice day" wrth adael siopa ayyb. Ma'r rhaglenni teledu gyda naws americanaidd a dwi rioed di gweld gymmaint o mcdonalds mewn lle mor fach o blaen. Rhyfedd, i feddwl fod y wlad o dan reolaith prydain 42 o flynoedd yn ol. Ond, ma nhw yn dreifio ar ochr chwith y lon.

Ar y dydd mawrth ar ol ffendio hotel nes i gysgu am rhan helaith y pnawn, cyn codi tua 7, cael chydig o fwyd, mewn un o'r nifer o food courts sydd o gwmpas y lle, a gwneud fy ffordd lawr i'r bae, (ma'r ddinas yn eitha bach a mae posib cerdded i lot o lefydd). Ar y dydd mercher roedd y bobl yn dathlu penblwydd Singapore yn 42 mlwydd oed, ac roedd yna sioe dan gwyllt yn y bae ar y nos fawrth, gwych!

Ar y dydd mercher nes i newid i hostel rhatach a crwydro o amgylch y ddinas a cael ar goll rhywle i'r de o chinatown (dwi meddwl) oedd o'n antur eniwe. Onin disgwyl bydda na barti anferth yn y stryd yn y nos, ond cefais fy siomi. Doedd dim parti yn mynd mlaen yn nunlla i weld, er fod yna sioe fawr egsiting yn digwydd yn y national stadium ond roedd tocynnau mond ar gael i drigolion yr ynys, er mawr siom. Ac i ddweud y gwir, siomedig ydw i wedi bod ar y cyfan hefo y nightlife yma. Ma peint yn eitha drud mewn bars (s$9 neu 3 punt am botel sydd ond yn dal 330ml!!!!) Mai'n rhatach yfad yn y food courts, felly fyddai'n cal peint weithia gyda pryd o fwyd (ma potel fawr tua 660ml o Tiger yn tua s$6-7 yn y llefydd yma). Ond does na ddim bywyd yn y bars, ma'r miwsig yn rhy uchel a'r bobl sy'n ei mynychu nhw yn edrych fel art snobs avante garde (yn yfed coke fel arfar), a does dim y teimad o gael hwyl ac yfed fel sy na mewn bars adra. Er, mi nes i siared hefo barman o llundain mewn clwb rock noson o'r blaen a ddudodd o fod y sin yn lot gwell ar y weekend, felly gawn ni weld!

Ddoe es i i'r sw. Yr highlight i mi oedd y sioe eliffantod, lle oedd yr eliffantod yn cario logs anfarth tua 8m o gyd a girth o tua 25cm ar ben ei hunain, neu os oedd y log yn really anfarth oedd yr eiffantod yn helpu ei gilydd i gario y log. Dwi isho un!! (eliphant nid log) Wedyn cefais gyfle i reidio ar gefn un o'r eliffantod. Ma blew eliffant yn teimlo fel wire brush i gyffwrdd a'u croen yn teimlo fel lledr trwchus calad. Prynais lyfr newydd ddoe hefyd, sef The first casualty gan Ben Elton (s$16) sydd yn argoeli yn dda yn y pennodau agoriadol.

Wel ma'r glaw monsoon wedi cilio rwan felly dwi am ei throi hi am draeth Changi, a treulio y diwrnod yn torheulo a darllen yno. Ella nai neud chydig o nofio, ond dwnim, dwi'n ofn siarcod...

Wednesday, August 09, 2006

 

Delhi

Dwi'n Singapore wan, felly mae trio cofio nol a sgwennu am fy mhrofiada yn Delhi yn eitha anodd.

Fe ddydis i nghynt es i Agra wsos dwytha (Dydd Mercher a Dydd Iau a Dydd Gwener), cartref y Taj mahal. Di Agra ddim hanner mor brysur a Delhi ac ddim yn agos o ran maint, felly y ffordd orau i gael ogwmpas ydi a'r cycle rickshaw (sy'n rhatach) na'r auto-rickshaw. gwelwch y llyniau! Ma'r dreifars yma wastad yn trio conio'r tourist anwybodus a chargio o-leia dwbl am bob taith, ma'n sgilia haglo fi wedi gwella yn aruthrol yn sgil hyn. Deud gwir, rhaid haglo am bopeth yna, mewn siop er engraifft does na'm pris ar ddim byd, neu tariff mewn hotel, pawb yn trio conio cyn-gymaint o arian a medra nhw gynno fi.

Yn India, mewn rhai rhannau o'r dinasoedd mai'n amhosibl cerdded y stryd am 5 eiliad gyfa, heb gael rhywyn yn eich haslo, cardotyn (plant fel arfer) , rickshaw men (y cerbydau taxi chwim 3 wheelers), dyn siop neu stand isho gwerthu rhywbeth i chi. Fel petai pawb ar ol fy arian (prin)!

Yn Agra nes i aros mewn hotel oedd efo rooftop restaurant ble oni'n gallu gweld y taj mahal ohoni, (ma na lun yn flickr). Es i fewn i weld y taj mahal ar bnawn dydd mercher ac ar ol cerdded ogwmpas am chydig nes i eistedd yn yr ardd yn darllen hunangofiant meic stevens (dwi wedi'i ddarfod erbyn hyn ac angen cal llyfr newydd i ddarllen!). Y peth od oedd fod pobl yn dod i fyny ata i tra onin darllen a gofyn os bysa nhw'n cal tynnu llun gyda mi!! oni wedi'n synnu i ddechrau, oni ddim yn dallt, ond dim gair o glwydda, nath oleia 5 grwp gwahanol o bobl gael photo efo fi! a dwi dal ddim yn siwr pam, oedden nhw jyst isho llun efo boi gwyn?? oedden nhw wedi nghamgymerryd fi am rhyw bollywood star??!

Y diwrnod nesa es i weld Agra fort oedd yn wych, nes i gal guide da iawn a nath o esbonio lot o hanes y fort (a'r taj i mi). Wedi i'r guide fy ngadel, es i grwydro ar liwt fy hyn, ma'r ffort yn le eitha mawr. A tra onin cerdded o amgylch yr adfeilion des ardraws ystafell llond o fwnci's yn cysgu ar yr addurniadau ac 'alcoves' ar y wal. penderfynnais dynnu llun, ond yn ddi arwybod i mi dyma'r fflash yn dod mlaen. wrth lwc nath y mwnci's ddim deffro, felly cymerais lun arall a cherdded allan. Deg eiliad yn ddiweddarach dyma fi'n clywed sgrech waedlyd o dy'r mwncwn's, roedd yn amlwg bod y mwncwn's yn ymladd. Sw'n i heb adal pen nesh i dwi'm yn gwbod beth fysa di digwydd, ond swn i di angen y jab rabbies, ma hynna'n siwr!

Es i nol i Delhi dydd Gwener a chwrdd i fyny efo'r hogia ar y nos wener, arhosais mewn hostel nos wener ond wedyn nos sadwrn a nos sul arhosais hefo'r hogia yn ei lle nhw. Ma taid Baz (sy'n dod o Delhi) yn aelod o glwb cymdeithasol yna, felly roedden ni'n aros yn rhai o ystafelloedd y clwb yma. Pwll nofio, air con, luxury!!! Aethon ni sight-seeio o gwmpas Delhi ar y dydd sadwrn a dydd sul ac yn y nos mynd allan am fwyd a peint neu ddau, cyn gem o poker nol yn y fflat. Dydd Llun roedd rhad ffarwelio, gan fod yr hogia'n mynd i'r amriht sarr (dwi'm yn siwr sut mai sillafu fo, gan mod i di rhoi'r llyfr lonely planet India i Rob), y Golden Temple, dal tren am 7 y bora! Oedd genai drwy'r dydd i ddisgwyl am fy flight i singapore am 23-10, felly es i neud chydig o sight seeing ac mynd ar fy mhen i India gate gyda mhac mawr ar fy nghefn, onin teimlo fel malwan. Darllenais y llyfr (gwych) neic stevens, tan tua 10 o gloch. wedyn yn India gate dechreuais siarad gyda dau o hogia indiaid, a oedd yn Delhi am y dwrnod ac yn sight seeio hefyd. cynnigiodd nhw i mi ddod efo nhw, a dyma nhw'n dangos i mi adeiladoedd y parliment ac yr Underground i mi. Wrth gwrs, gyda mhac mawr ar fy nghefn roeddwn i'n edrych fel terfysgwr i'r bobl diogelwch, a ni chefais fynd i mewn i'r senedd. Yn waeth na hyn, ar yr underground mynnodd y swyddog diogelwch fod o'n cael inspectio'r bag a tynnu'r cynnwys, oni wedi bacio'n daclus allan yn ddi-seremoni ar lawr y steshion!! Yn ddiweddarach yn y Dydd tra oni'n lladd amsar cyn hedfan cefais fy ngwrthod i fynd i mewn i'r sinema 'fyd. Oedd pobl yn deud wrtha fi fod yr heddlu a pobl diogelwch yn wiliadwrus iawn ar hyn o bryd yn dilyn y ffrwydriadau diweddar yn Mumbai ac hefyd gan fod diwrnod dathlu annibyniaeth India ar y 16ed dwi meddwl.

Eniwe gadawais India am 23-10 ar y 07-08-06 a cyrraedd Singapore am tua 07-00 ar y 08-08-06 , wedi bino'n lan ond roedd rhaid ffendio lle i aros...

Saturday, August 05, 2006

 

Delhi Belly

Yma mewn internet cafe yn Delhi ydw i wan, mewn lle eitha cyfaethog o'r ddinas. Ma'r ddinas i gyd yn dlawd ond mae yna niche's bach o gyfoeth wedi dotio ogwmpas y lle. Ma'r post yma yn mynd i fod yn crap, achos i ddweud y gwir sgennai'm llawer o fynnadd sgwennu wan a dwi di anghofio'r camera yn y fflat so allai ddim llwytho llynia, shit! ond mi nai wneud post 'iawn' ar India yn fuan, gaddo. yn y maes awyr dydd llun, ella.

Cyrrhaeddais i faes awyr Delhi fora dydd mawrth tua 11 o gloch. Cerdded oddi ar yr awyren a mewn i un o'r dinasoedd mwyaf budr, drewllyd, swnllyd a bler yn y byd. Gymerodd hi ychydig o ddwrnoda' i mi gal arfar a'r lle, ond rwan dwi'n really mwynhau. Ma'r lle dal yn drewi, budr a swnllyd, ond ma'r wlad yn hynod ddiddorol ac yn hollol wahanol i Brydain ym mhob ffor, nai ymhaelaethu ar hyn wedyn.

Dwi di bod yn agra (i weld y taj mahal, sydd yn wych!). am y tridia dwytha. ges i'n ol i Delhi ddoe a dros y weekend dwi'n aros efo ffrindia sy'n neud dentistry hefo fi (owain, baz, rob, ben, jimmy, a smith). Oni'n falch o weld gwynebau cyfarwydd a cal sgwrs gall (sydd yn anodd i gal hefo y brodorion yma!). Athon ni allan am beint neithiwr, dwi ddim yn meddwl fod hynna wedi helpu'r sefyllfa 'delhi belly' sy'n fy mhoeni ar hyn o bryd! odd rhaid i mi fynd i'r toiled 5 gwaith neithiwr! ag oni'n teimlo'n eitha benysgafn ac hefo cur-pen trw dydd heddiw, dwi meddwl na dehydrated oni. ond dwi ar y mend dwi meddwl ac yn teimlo'n well yn barod. fory, fyddai rel boi!

ciao for now!

This page is powered by Blogger. Isn't yours?