Saturday, September 16, 2006

 

LA X

Pam bod nhw'n galw'r lle ma'n LA X? Be ma'r X yn sefyll am?

Dwi di gwario'n 3 dolar dwytha ar yr internet a ma gen i 4 munud ar ol. Felly un byr fydd hwn. Dwi'n hedfan am 17-20 a fyddai'n glanio am tua hannar dydd fory. Edrach mlaen i gyrradd nol. CColeg dydd llun. Dim ond 52 eiliad ar ol... ta ta

Wednesday, September 13, 2006

 

Santa Monica, LA

Dwi'n aros mewn HI International Los Angeles - Santa Monica, sydd 2 funud o walk o MUSCLE BEACH. Dwi di bod yna yn barod, fatha scene allan o baywatch, sureal iawn. Dwi di bod yma tua 4 awr ac ma'r americans arrogant loud yn dechra mynd ar nerves fi'n barod.

Monday, September 11, 2006

 

Kiwi


Helo,

Dwi dal yn Seland newydd. Wedi cal amser gwych yma! Tro dwytha nes i sgwennu roeddwn i ar fin cychwyn ar yr Otago Central rail trail, dyma lun o Fi a Ioan eiliadau cyn cychwyn ar y siwrna hir drwy gefngwlad gwyllt a perryg canolbarth Otago, nid siwrna i wimps mohoni, ac fel y gwelwch o'r llun roeddan ni yn focused ac o ddifri. Roedd team Fronheulog yn barod i reidio!

Drwy'r tywydd gwyllt (haul rhan fwyaf, ac awel braf) a tirwedd anhysbell llwyddon ni drechu y siwrna sydd bron 100km o hyd mewn dau ddiwrnod. Welon ni neb arall ar hyd y trac drost y ddau ddiwrnod cyfa! Roedda ni'n reidio am oriau ac oriau heb weld ffarm neu unrhyw hoel o wareiddiad. Ar y nos fawrth arhoson ni mewn hotel mewn pentref or enw Hyde. Roeddan ni braidd yn hwyr yn cyraedd, ac roedd hi wedi nosi. Dyma ffaith ddiddorol i chi am Hyde - Dim ond 5 person sy'n byw yn Hyde (2 mwy na Carreglefn, hihi!), ac mae gan Hyde 5 bolyn lamp! Dachi'n dysgu rhywbeth newydd pob diwrnod dydach. Oedd y hotel yn wych, fel ty cartrefol, hen ddynas yn rhedag y lle wedi neud swpar i ni oedd yn barod a cynnes wrth i ni gyradd, salmon, chicken in mango sauce a rhywbeth mewn casserol dish efo beef ynddo fo, mmmm neis!

Cyrhaeddon ni Dunedin pnawn dydd mercher ar ol dal y Taieri Railway o Puckerangi (diwedd y rail trail a beicio i ni). Ma Dunedin wedi cal lot o bad press yn ddiweddar gan fod chydig o bartion y myfyrwyr wedi mynd bach allan o reolaeth, a bo nhw di dechra llosgi eu soffa's (ia, y cadeiraiu cyffyrddus) yn nghanol y stryd. Dwi'n meddwl o ganlyniad bydd lot o fyfyrwyr Dunedin yn colli eu bonds flwyddyn yma. Gafon ni noson dda yn Dunedin er fod hi'n noson eitha distaw (nos fawrth bob tro dydi?), ar y Speights Brewery tour, Speights ydy y cwrw yma yn Seland Newydd, dydyn nhw ddim yn yfad lager llawar. Mewn pybs ma'r taps i gyd yn ales neu stouts fel rheol, lot llai gassy na lager ac eitha neis 'fyd. Ar y tour ges i drio y 7 gwahanol math o gwrw yr oedd Speights yn gynhyrchu, unwaith eto - mmmmmm neis! Wedyn athon ni i'r Undeb Myfyrwyr lle roedd yna fand Jazz gwych yn chwarae (Jazz, nice...). Roedd yna lawer o crusty's wedi gwisgo'n rad(ical) yna ac yn dawnsio fel alligators dall ar speed. Oedd y lle yn dra wahanol i Undeb Myfyrwyr Gaerdydd. Di pobl ddim yn gwisgo'n smart iawn i fynd allan yma yn Seland Newydd, dyna di'r gwahaniath mwyaf.

Iawn Dudes. Ers cyradd nol o Dunedin dwi di bod yn gwella fy sciliau snowboardio sydd yn agos i berffeithrwydd erbyn hyn, felly ddoe ac echddoe penderfynais scio am change.

(Iason y goedwig, fyddi di wrth dy fodd efo hyn) Dydd Sadwrn aeth Ioan fi a Sarah i weld lleoliad ffilmio darn o Lord of the Rings, dyma lun ohono. Ma'r bryn bach yna sydd tu ol i ni yn ddarn pwysig iawn or ffilm, yn anffodus, gyda cadwraeth mewn golwg, gorfodwyd LOTR i dynnu pob math o set neu adeiliad i lawr ar ol y ffilmio, felly bydd rhaid i chi ddefnyddio'ch dychymyg. Dwi ddim am ddeud lle ydi'r lleoliad, dwi am adal i chi, y darllenwyr drio dyfalu lle ydi'r lle yn y llun. Bydd yna anrheg dirgel i'r sawl sy'n enwi'r lleoliad gynta. Pob Lwc. Postiwch yr atebion yn y comments.

Sunday, September 03, 2006

 

Queenstown, New Zealand


Dwi'n sylweddoli mod i heb neud blog decent ar Awstralia, ond dwi yn Queenstown, New Zealand ar hyn o bryd a mai'n anodd cofio nol.

Oedd Awstralia yn gret, ges i wsos / deg dwrnod dda i ddal i fyny hefo Bwch. Mynd allan a mwynhau ogwmpas Sydney hefo'r hogia tan oriau man y bora. Mi nesh i chydig o site-seeing, es i weld yr Opera House (copy o'r Lotus Temple yn Delhi!) a'r Harbour Bridge un diwrnod ac ar ddydd arall es surffio efo'r dudes i gyd yn Bondi Beach!

Yn y hostel, roedd yna gnawes o Germanes (Almaenwraig) yn cysgu drws nesa i Bwch am ddwy noson. Doedd hi ddim yn hapus iawn hefo'r chwrnu oedd Bwch yn ei wneud a wedi cael gair efo fo yn gynharach yn y dydd. Ar yr ail noson roedd hi angen noson dda o gwsg gan ei bod hi'n codi am 4 i ddal awyren. Athon ni allan y noson yna a dod yn ol i'r hostel a noshwylio am tua 2 yn y bora. Pawb yn mynd i gysgu, Bwch, true to form, yn dechra chwrnu. Yn y bora, deffrodd Bwch gyda cleisia drosto fo, a bag mawr o 'boiled sweets' wrth ei ymyl, mewn penbleth. Oedd y hogan Almaeneg wedi cael llond bol ar y chwnru a wedi ei gnocio fo drwy'r nos hefo'r paced boiled sweets nes oedd o'n peidio! Nathon ni fwyta nhw wedyn.

Y diwrnod ar ol cyradd yn Seland Newydd ges i lie in mawr. Codi a cal uwd, wedyn ath Ioan a fi i reidio beic o gwmpas Timaru a wedyn pigo Sarah i fyny o gwaith gyda'r nos yn y mean machine Subaru 4wd! Wedyn dydd Gwener, aethon ni i Snowboardio. Sydd ddim mor anodd a ma pawb yn neud allan. Nes i just sefyll fyny a mynd yn syth, OK nesh i syrthio pen nesh i drio troi. Wedyn nesh i godi nol i fyny a snowboardio holl ffordd i'r gwaelod, mae'n rhaid mod i'n natural! Ond dwi methu handlo y T bars a stwff, ma rheini'n lot anoddach ar snowboard.

Dydd Sadwrn athon ni i Queenstown ac aros dwy noson yna. Ar y ffordd i Queenstown nesh i neud y Bungi jump Kawarau river, a cael head dunk! Dydd Sul aethon ni weld llwythi o anifeiliaid yn y Deer Park Heights (Yak's, Geifr, Gwartheg Highland, Moch Trui trui (hyll iawn), Lama's, albaks, Bison) , oedd Sarah wrth ei bodd, oedd yr anifeiliaid i gyd yn ddof ac roedd modd mynd reit atyn nhw a'u bwydo. Math na Billy goat blin headbytio fi.

Heddiw ma Sarah yn mynd adra achos ma hi'n gweithio fory a mae Ioan a fi yn mynd ar bike ride, sy'n cymryd 2 ddiwrnod! Enw'r bike ride ydi'r Rail Trail, dani'n cychwyn yn y lle ma ac yn diweddu yn Dunedin (student capitol new zealand).

word out!

This page is powered by Blogger. Isn't yours?