Monday, September 11, 2006

 

Kiwi


Helo,

Dwi dal yn Seland newydd. Wedi cal amser gwych yma! Tro dwytha nes i sgwennu roeddwn i ar fin cychwyn ar yr Otago Central rail trail, dyma lun o Fi a Ioan eiliadau cyn cychwyn ar y siwrna hir drwy gefngwlad gwyllt a perryg canolbarth Otago, nid siwrna i wimps mohoni, ac fel y gwelwch o'r llun roeddan ni yn focused ac o ddifri. Roedd team Fronheulog yn barod i reidio!

Drwy'r tywydd gwyllt (haul rhan fwyaf, ac awel braf) a tirwedd anhysbell llwyddon ni drechu y siwrna sydd bron 100km o hyd mewn dau ddiwrnod. Welon ni neb arall ar hyd y trac drost y ddau ddiwrnod cyfa! Roedda ni'n reidio am oriau ac oriau heb weld ffarm neu unrhyw hoel o wareiddiad. Ar y nos fawrth arhoson ni mewn hotel mewn pentref or enw Hyde. Roeddan ni braidd yn hwyr yn cyraedd, ac roedd hi wedi nosi. Dyma ffaith ddiddorol i chi am Hyde - Dim ond 5 person sy'n byw yn Hyde (2 mwy na Carreglefn, hihi!), ac mae gan Hyde 5 bolyn lamp! Dachi'n dysgu rhywbeth newydd pob diwrnod dydach. Oedd y hotel yn wych, fel ty cartrefol, hen ddynas yn rhedag y lle wedi neud swpar i ni oedd yn barod a cynnes wrth i ni gyradd, salmon, chicken in mango sauce a rhywbeth mewn casserol dish efo beef ynddo fo, mmmm neis!

Cyrhaeddon ni Dunedin pnawn dydd mercher ar ol dal y Taieri Railway o Puckerangi (diwedd y rail trail a beicio i ni). Ma Dunedin wedi cal lot o bad press yn ddiweddar gan fod chydig o bartion y myfyrwyr wedi mynd bach allan o reolaeth, a bo nhw di dechra llosgi eu soffa's (ia, y cadeiraiu cyffyrddus) yn nghanol y stryd. Dwi'n meddwl o ganlyniad bydd lot o fyfyrwyr Dunedin yn colli eu bonds flwyddyn yma. Gafon ni noson dda yn Dunedin er fod hi'n noson eitha distaw (nos fawrth bob tro dydi?), ar y Speights Brewery tour, Speights ydy y cwrw yma yn Seland Newydd, dydyn nhw ddim yn yfad lager llawar. Mewn pybs ma'r taps i gyd yn ales neu stouts fel rheol, lot llai gassy na lager ac eitha neis 'fyd. Ar y tour ges i drio y 7 gwahanol math o gwrw yr oedd Speights yn gynhyrchu, unwaith eto - mmmmmm neis! Wedyn athon ni i'r Undeb Myfyrwyr lle roedd yna fand Jazz gwych yn chwarae (Jazz, nice...). Roedd yna lawer o crusty's wedi gwisgo'n rad(ical) yna ac yn dawnsio fel alligators dall ar speed. Oedd y lle yn dra wahanol i Undeb Myfyrwyr Gaerdydd. Di pobl ddim yn gwisgo'n smart iawn i fynd allan yma yn Seland Newydd, dyna di'r gwahaniath mwyaf.

Iawn Dudes. Ers cyradd nol o Dunedin dwi di bod yn gwella fy sciliau snowboardio sydd yn agos i berffeithrwydd erbyn hyn, felly ddoe ac echddoe penderfynais scio am change.

(Iason y goedwig, fyddi di wrth dy fodd efo hyn) Dydd Sadwrn aeth Ioan fi a Sarah i weld lleoliad ffilmio darn o Lord of the Rings, dyma lun ohono. Ma'r bryn bach yna sydd tu ol i ni yn ddarn pwysig iawn or ffilm, yn anffodus, gyda cadwraeth mewn golwg, gorfodwyd LOTR i dynnu pob math o set neu adeiliad i lawr ar ol y ffilmio, felly bydd rhaid i chi ddefnyddio'ch dychymyg. Dwi ddim am ddeud lle ydi'r lleoliad, dwi am adal i chi, y darllenwyr drio dyfalu lle ydi'r lle yn y llun. Bydd yna anrheg dirgel i'r sawl sy'n enwi'r lleoliad gynta. Pob Lwc. Postiwch yr atebion yn y comments.

Comments:
Cliw.
Dim Mynydd Badafon ydio.
 
Mae Iason y Goedwig yn hynod, hynod, hynod gefnigennus. Hynod.
 
Os dydi Jason ddim yn mynd i gal o'n iawn, dwi ddim yn meddwl bod yna llawer o obaith i neb arall! Felly dyma'r ateb:

Mt Potts high country station, home of Mt Sunday; see how this peaceful mountain was transformed into Edoras, the capital city of the Rohan people in the Lord of the Rings trilogy.

Dwi am gadw'r anrheg dirgel i gyd i fi fy hun, ha ha ha ha.
 
This comment has been removed by a blog administrator.
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?