Wednesday, August 09, 2006

 

Delhi

Dwi'n Singapore wan, felly mae trio cofio nol a sgwennu am fy mhrofiada yn Delhi yn eitha anodd.

Fe ddydis i nghynt es i Agra wsos dwytha (Dydd Mercher a Dydd Iau a Dydd Gwener), cartref y Taj mahal. Di Agra ddim hanner mor brysur a Delhi ac ddim yn agos o ran maint, felly y ffordd orau i gael ogwmpas ydi a'r cycle rickshaw (sy'n rhatach) na'r auto-rickshaw. gwelwch y llyniau! Ma'r dreifars yma wastad yn trio conio'r tourist anwybodus a chargio o-leia dwbl am bob taith, ma'n sgilia haglo fi wedi gwella yn aruthrol yn sgil hyn. Deud gwir, rhaid haglo am bopeth yna, mewn siop er engraifft does na'm pris ar ddim byd, neu tariff mewn hotel, pawb yn trio conio cyn-gymaint o arian a medra nhw gynno fi.

Yn India, mewn rhai rhannau o'r dinasoedd mai'n amhosibl cerdded y stryd am 5 eiliad gyfa, heb gael rhywyn yn eich haslo, cardotyn (plant fel arfer) , rickshaw men (y cerbydau taxi chwim 3 wheelers), dyn siop neu stand isho gwerthu rhywbeth i chi. Fel petai pawb ar ol fy arian (prin)!

Yn Agra nes i aros mewn hotel oedd efo rooftop restaurant ble oni'n gallu gweld y taj mahal ohoni, (ma na lun yn flickr). Es i fewn i weld y taj mahal ar bnawn dydd mercher ac ar ol cerdded ogwmpas am chydig nes i eistedd yn yr ardd yn darllen hunangofiant meic stevens (dwi wedi'i ddarfod erbyn hyn ac angen cal llyfr newydd i ddarllen!). Y peth od oedd fod pobl yn dod i fyny ata i tra onin darllen a gofyn os bysa nhw'n cal tynnu llun gyda mi!! oni wedi'n synnu i ddechrau, oni ddim yn dallt, ond dim gair o glwydda, nath oleia 5 grwp gwahanol o bobl gael photo efo fi! a dwi dal ddim yn siwr pam, oedden nhw jyst isho llun efo boi gwyn?? oedden nhw wedi nghamgymerryd fi am rhyw bollywood star??!

Y diwrnod nesa es i weld Agra fort oedd yn wych, nes i gal guide da iawn a nath o esbonio lot o hanes y fort (a'r taj i mi). Wedi i'r guide fy ngadel, es i grwydro ar liwt fy hyn, ma'r ffort yn le eitha mawr. A tra onin cerdded o amgylch yr adfeilion des ardraws ystafell llond o fwnci's yn cysgu ar yr addurniadau ac 'alcoves' ar y wal. penderfynnais dynnu llun, ond yn ddi arwybod i mi dyma'r fflash yn dod mlaen. wrth lwc nath y mwnci's ddim deffro, felly cymerais lun arall a cherdded allan. Deg eiliad yn ddiweddarach dyma fi'n clywed sgrech waedlyd o dy'r mwncwn's, roedd yn amlwg bod y mwncwn's yn ymladd. Sw'n i heb adal pen nesh i dwi'm yn gwbod beth fysa di digwydd, ond swn i di angen y jab rabbies, ma hynna'n siwr!

Es i nol i Delhi dydd Gwener a chwrdd i fyny efo'r hogia ar y nos wener, arhosais mewn hostel nos wener ond wedyn nos sadwrn a nos sul arhosais hefo'r hogia yn ei lle nhw. Ma taid Baz (sy'n dod o Delhi) yn aelod o glwb cymdeithasol yna, felly roedden ni'n aros yn rhai o ystafelloedd y clwb yma. Pwll nofio, air con, luxury!!! Aethon ni sight-seeio o gwmpas Delhi ar y dydd sadwrn a dydd sul ac yn y nos mynd allan am fwyd a peint neu ddau, cyn gem o poker nol yn y fflat. Dydd Llun roedd rhad ffarwelio, gan fod yr hogia'n mynd i'r amriht sarr (dwi'm yn siwr sut mai sillafu fo, gan mod i di rhoi'r llyfr lonely planet India i Rob), y Golden Temple, dal tren am 7 y bora! Oedd genai drwy'r dydd i ddisgwyl am fy flight i singapore am 23-10, felly es i neud chydig o sight seeing ac mynd ar fy mhen i India gate gyda mhac mawr ar fy nghefn, onin teimlo fel malwan. Darllenais y llyfr (gwych) neic stevens, tan tua 10 o gloch. wedyn yn India gate dechreuais siarad gyda dau o hogia indiaid, a oedd yn Delhi am y dwrnod ac yn sight seeio hefyd. cynnigiodd nhw i mi ddod efo nhw, a dyma nhw'n dangos i mi adeiladoedd y parliment ac yr Underground i mi. Wrth gwrs, gyda mhac mawr ar fy nghefn roeddwn i'n edrych fel terfysgwr i'r bobl diogelwch, a ni chefais fynd i mewn i'r senedd. Yn waeth na hyn, ar yr underground mynnodd y swyddog diogelwch fod o'n cael inspectio'r bag a tynnu'r cynnwys, oni wedi bacio'n daclus allan yn ddi-seremoni ar lawr y steshion!! Yn ddiweddarach yn y Dydd tra oni'n lladd amsar cyn hedfan cefais fy ngwrthod i fynd i mewn i'r sinema 'fyd. Oedd pobl yn deud wrtha fi fod yr heddlu a pobl diogelwch yn wiliadwrus iawn ar hyn o bryd yn dilyn y ffrwydriadau diweddar yn Mumbai ac hefyd gan fod diwrnod dathlu annibyniaeth India ar y 16ed dwi meddwl.

Eniwe gadawais India am 23-10 ar y 07-08-06 a cyrraedd Singapore am tua 07-00 ar y 08-08-06 , wedi bino'n lan ond roedd rhaid ffendio lle i aros...

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?