Sunday, August 13, 2006

 

Maes Awyrennau Changi, Singapore

Dwi yma unwaith eto, wythnos yn ddiweddarach ym maes awyrennau Changi. Ma Singapore yn cwl.
Wrth lwc nes i ddim cyfarfod unrhyw siarcod neu anffawd y dyfnderoedd dydd Gwener. A dydd Sadwrn o'n i'n teimlo ddigon dewr i fynd i'r traeth unwaith eto, ond traeth gwahanol y tro hwn. I'r de o Singapore mae yna ynys fechan o'r enw Sentosa, tua 2 filltir o hyd a lled. Mae hi'n andros o brydferth a mae yna draethau yna hefo tywod gwyn fel eira. Ma'r lle wedi'i or-ddatblygu (dwin amau fod yr eira-dywod yn fake) ond yn dda er gwaetha hyn, fel popeth yn singapore mai'n hawdd ffendio'ch ffordd ogwympas ar y bysus 'am ddim' sy'n danfon pobl ardraws yr ynys. Mae ski lift yn danfon pobl o singapore i'r ynys yma sy'n gyfle gwych i gael golygfa dda o singapore a'r porthladd o'r awyr! Wedi cyrraedd yr ynys es i weld underwater world ac yna sioe dolffins, waw ma nhw yn anifeiliad clyfar. Tra yn y sioe cwrddais a gwr a gwraig oedd wedi ymfudo i Perth, Awstralia (doeddan nhw ddim yn nabod Ffranc!), ond yn wreddiol o Gaerdydd. Oedd y cwpl yn arfer byw ar Woodville Road a rhedeg y siop sglodion the woodville fish-bar. Dyma lle oedd Owain a Huw, a weithia Potter a minnau yn mynd am sglodion yn yr ail-flwyddyn ar ol chwaraeon dydd mercher. Byd bach de!

Nos wener a nos sadwrn roedd yna fwy o sioeau tan gwyllt yn y ddinas. Drost yr wsos dwytha ma'n rhaid mod i wedi gwylio gwerth miloedd ar filoedd o dan gwyllt yn llosgi yn yr awyr. Oedd arddangosfa nos wener yn arbennig, roedd y tan gwyllt yn ffrwydro dan gyfeiliant miwsig! Nos sadwrn, yn yr hostel cwrddais a hogyn o Ffrainc, Sylvian, oedd newydd symud i mewn i'r bync bed uwch fy mhen. Dwi di treuylio'r ddau ddiwrnod dwytha hefo fo a newydd ddeud au-revoir gan fod ei awyren o yn hedfan i Perth am 09-30, a minnau ddim yn mynd tan 10-40. Nos Sadwrn athon ni allan, a diweddon ni yng nglwb nos y ministery of sound singapore, sydd yn le gwych gyda nifer o stafelloedd dawsio hefo genre's gwahanol ym mhob un. Treuliais fwyafrif y noson yn y stafell 'ddisco', wrth gwrs! Ma mynd allan yn Singapore fel mynd allan adre ond llawer drytach. Tydi cwrw ddim yn ddrud i brynnu o siop, ond mewn pyb neu clwb ma peint yn gallu costio tua S$15.

Dydd Sul es i nol i ynys Sentosa gyda Sylvian a gwneud dim byd ond darllen a cysgu ar y traeth a nofio chydig. Dwi'n darllen llyfr gan Ben Elton nesh i brynnu dwrnod o blaen am s$16, The first casualty, llyfr da. Neithiwr, nos Sul, cefais fwyd yn un o'r nifer o food courts sydd yma, dwi di bod yn byw ar fwyd y food courts yma am wythnos nawr, deud y gwir . Ma'r bwyd yma yn wych ym mhob man, os dachi'n licio bwyd tseiniaidd yna byddech chi wrth eich bodd yn Singapore, ond os dyda chi ddim ma na fwydydd yma o bob rhan o'r byd. Cefais granc nos sadwrn, ond doeddwn i ddim yn hoff iawn ohono. Ma Sylvian wedi deud fod y bwyd yn hydnod gwell yn Thailand felly allaim disgwyl! Wedyn aethom ni am lymaid bach yng Nglarke's Quay (Clarke's Quay ydi'r lle ma'r tourists ifanc yn mynd allan), ond dim llawer gan mod i eisiau codi bora ma.

A dyna ni, dwi'n eistedd yn y maes awyr yn disgwyl am yr awyren, hefo hiraeth am Singapore yn barod!

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?