Friday, August 18, 2006

 

Mynd i Bangkok

Dwi di checkio allan o fyngalow y brodyr thai. Di cal brecwast ar y traeth, a di gwneud fy ffordd i'r internet cafe i mi gal llwytho fy llynia ar CD a deud helo i chi bobl bach yn telly-land! (J-rod)

Es i Kayakio dydd Mercher, mewn rhyw lagoons a coedwig mangrove oedd yn llenwi efo dwr mor pen oedd y llanw'n uchel a felly roedd posib kayakio o dan y coed a drwy y goedwig. Pob hyn a hyn reoddan ni yn taro ar dylwythi gwahanol o fwnciod (long tail makaks), ac yn bwydo ffrwytha iddyn nhw. Petha barus iawn ydi mwnciod ac os oedd llawer o fwyd ar eich cwch roeddan nhw'n tueddu i neidio'n wyllt ar eich kayak gan bron troi y kayak drosodd.

Dydd Iau es i Sgwba deifio, ond dim ond yn y pwll. Oedd rhaid fi ddysgu rhyw stwff am air pressure hefyd ermwyn pasio'r prawf. Wedyn dydd Gwener ges i fynd i ynysoedd Phi Phi a sgwba deifio ar y coral reef, nes i ddim gweld siarc yn anffodus! Ond welis i LionFish, Scorpion Fish, clown fish a llwythi o bysgod prydferth eraill. Oedd sgwba deifio yn wych ond doedd o ddim mor egseiting ag o'n i wedi ddychmygu fo. Dydio ddim mor gyffroes a mae on edrach mewn ffilm James Bond. Dwi rwan yn PADI certified Sgwba diver, beth bynnag ma hynna'n feddwl.

Nos Iau, od iawn. Cwrddais a tair hogan oni wedi dod yn gyfeillgar gyda nhw ar y trip kayakio, a dyma ni'n mynd am fwyd i ryw Italian. Eniwe, ar ol cal bwyd athon ni i'r bar 'ma, eistedd lawr a cal chydig o ddiodydd. Ar ol ychydig dyma Ffion a Meleri yn cerdded mewn i'r bar!! Oni wedi synnu i weld nhw, onin gwbod fod nhw yn Thailand ond byth wedi dychmygu sw'n i'n jysd bympio mewn iddyn nhw fel hyn. Dyma ni gyd yn mynd allan i'r ry'n lle, a mi oedd nos Iau yn noson dda. Dwi'm yn cofio pryd es i gwely, ond roedd rhaid i'r pobl sgwba deifio ddeffro fi trwy gnocio ar fy nrws am 8! Dwi meddwl bo fi dal wedi meddwi ar y dive cynta', onin teimlo'n eitha sal ar adegau hefyd a dwim yn gwbod be swn i di neud petawn i wedi chwdu o dan y dwr! Sa visibilty wedi bod yn wael wedyn! Ond ni chwdais, diolch byth, ac erbyn yr ail ddeif yn y pnawn onin teimlo lot gwell ar ol cal cinio a cysgu chydig ar ddec y gwch. Oedd un o'r dive masters yn wreiddiol o Llanfairpwll, Ian Owens oedd ei enw, yn siarad cymraeg, yn ei dridegau swnin deud, a wedi bod yn blisman am yn hir cyn ymfudo yma i Thailand i gal deifio bob dydd o'r flwyddyn, braf de.

Neithiwr, ar ol cael fy mhapurau wedi sortio, yn deud mod i'n PADI certified sgwba diver (swnion dda dydi!). Nes i fynd i gwrdd a Ffion a Meleri a cal bwyd efo nhw, yn yr ry'n Italian eto (ma'r pizza's yn dda yna!). Wedyn athon ni weld Thai Boxing, onin disgwyl rhywbeth lot mwy violent nag oedd o. Tra'n gwylio'r bocsio nath Meleri ddeud "pam dydi nhw ddim yn neidio oddi ar y corneli a taflu gilydd a bownsio oddi ar y rhaffau?" dyma Ffion yn atab "ym... reslo di hwnna sti."

Ia, next stop Bangkok. Bys yn gadal am 4 heddiw ac yn cyradd am 6 bora fory, ond dwi meddwl mod i'n cal gwely sydd yn iawn. Os ddim nai gysgu yn yr aisle.

Comments:
Oi! Dyma ateb i dy gwestiwn am luniau:

Reit, achos ti ar blogspot de Sgwbs mae 'na fotwm pan ti'n actiwli 'sgwennu blog (ar y bar offer) sy'n dweud 'Add Image' [ar y dde]. Wedyn fe roith ddewis i ti llwytho llun o'r cyfrifiadur neu oddi ar ffynhonnell arall ar y rhyngrwyd.

Os oes gen ti dy gyfrifiadur dy hun mae'n hawdd iawn llwytho fyny yn syth i'r blog felly, ond os nad oed gynnot ti byddwn i'n awgrymu agor cyfrif ar flickr.com a gosod dy luniau o fanno.

Gobeithio ti'n dal i fwynhau! Hwyl!
 
ON: Sgwbi Deifio. Ha ha!
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?