Thursday, August 10, 2006

 

Penblwydd Hapus Singapore!

cyrhaeddais Singapore dydd mawrth am tua 6 o gloch y bora. Gysgais yn dda am tua 5 awr ar yr awyren, felly do'n i ddim wedi blino yn ormodedd, teimlo fel mild hang-over. Oni ddim wedi gwneud llawer o ymchwil ar y lle cyn cyradd, mond wedi clywed hanesion gan chydig o bobl "it's so clean you can eat off the streets" a wedi prynnu llyfr supplement i gyd fynd a rhyw fagasin yn faes awyr delhi oedd am dan Singapore.

Ma Singapore yn gret. Ma'r lle yn lan, twt a thaclus a diogel. Dwin aros mewn hostel eitha basic ar hyn o bryd am tua S$10 y noson sydd yn tua 3.33333 punt. dwi ddim hydnod efo ystefell, dwin cysgu mewn byncbed yn y corridor! Deos na'm drws ar ffrynt yr hostel a dim swyddog diogelwch ar yr adwy, ond dim ots, ma'r lle yn hollol saff. Ma'r bobl yma i weld yn bobl onest a chyfeillgar a wastad yn trio helpu (pen dwi'n gofyn y fordd i rhywle er engraifft). Yn ol y son gellid cael dirwy o tua s$5000 o bunnoedd am dalfu ysbwriel, felly o ganlyniad ma'r strydoedd yn spotless. Dwi'n dychmygu fod y gosb am droseddau eraill yn eitha drwg hefyd, felly ma'r lle yn eitha heddychlon a does dim troseddu i weld yn amlwg yma.

Ma dylanwad americanaidd i weld ym mhobman yma. Ma'r bobl yn trio siarad efo acen americanaidd yma a deud "have a nice day" wrth adael siopa ayyb. Ma'r rhaglenni teledu gyda naws americanaidd a dwi rioed di gweld gymmaint o mcdonalds mewn lle mor fach o blaen. Rhyfedd, i feddwl fod y wlad o dan reolaith prydain 42 o flynoedd yn ol. Ond, ma nhw yn dreifio ar ochr chwith y lon.

Ar y dydd mawrth ar ol ffendio hotel nes i gysgu am rhan helaith y pnawn, cyn codi tua 7, cael chydig o fwyd, mewn un o'r nifer o food courts sydd o gwmpas y lle, a gwneud fy ffordd lawr i'r bae, (ma'r ddinas yn eitha bach a mae posib cerdded i lot o lefydd). Ar y dydd mercher roedd y bobl yn dathlu penblwydd Singapore yn 42 mlwydd oed, ac roedd yna sioe dan gwyllt yn y bae ar y nos fawrth, gwych!

Ar y dydd mercher nes i newid i hostel rhatach a crwydro o amgylch y ddinas a cael ar goll rhywle i'r de o chinatown (dwi meddwl) oedd o'n antur eniwe. Onin disgwyl bydda na barti anferth yn y stryd yn y nos, ond cefais fy siomi. Doedd dim parti yn mynd mlaen yn nunlla i weld, er fod yna sioe fawr egsiting yn digwydd yn y national stadium ond roedd tocynnau mond ar gael i drigolion yr ynys, er mawr siom. Ac i ddweud y gwir, siomedig ydw i wedi bod ar y cyfan hefo y nightlife yma. Ma peint yn eitha drud mewn bars (s$9 neu 3 punt am botel sydd ond yn dal 330ml!!!!) Mai'n rhatach yfad yn y food courts, felly fyddai'n cal peint weithia gyda pryd o fwyd (ma potel fawr tua 660ml o Tiger yn tua s$6-7 yn y llefydd yma). Ond does na ddim bywyd yn y bars, ma'r miwsig yn rhy uchel a'r bobl sy'n ei mynychu nhw yn edrych fel art snobs avante garde (yn yfed coke fel arfar), a does dim y teimad o gael hwyl ac yfed fel sy na mewn bars adra. Er, mi nes i siared hefo barman o llundain mewn clwb rock noson o'r blaen a ddudodd o fod y sin yn lot gwell ar y weekend, felly gawn ni weld!

Ddoe es i i'r sw. Yr highlight i mi oedd y sioe eliffantod, lle oedd yr eliffantod yn cario logs anfarth tua 8m o gyd a girth o tua 25cm ar ben ei hunain, neu os oedd y log yn really anfarth oedd yr eiffantod yn helpu ei gilydd i gario y log. Dwi isho un!! (eliphant nid log) Wedyn cefais gyfle i reidio ar gefn un o'r eliffantod. Ma blew eliffant yn teimlo fel wire brush i gyffwrdd a'u croen yn teimlo fel lledr trwchus calad. Prynais lyfr newydd ddoe hefyd, sef The first casualty gan Ben Elton (s$16) sydd yn argoeli yn dda yn y pennodau agoriadol.

Wel ma'r glaw monsoon wedi cilio rwan felly dwi am ei throi hi am draeth Changi, a treulio y diwrnod yn torheulo a darllen yno. Ella nai neud chydig o nofio, ond dwnim, dwi'n ofn siarcod...

Comments:
Sgwbi! Be ddiawl ti'n neud yn Singapore!? Chlywish i ddim bo ti wedi mynd tan neithiwr gan Elin Telyn ym Mangor, a rwan dw i'n gweld dy fod ti'n galifantio rownd y byd yn meddwl mai Wili Ffog wti!

Asu, maesho gras!
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?