Tuesday, August 15, 2006

 

'Sa-wad-di!'

Dyna sut mae deud helo mewn Thai.

Cyrhaeddais Thailand ddoe tua 12-00 ar y dot. Ma'r wlad yma fel petai rhywle yn y canol rhwng India a Singapore. O rhan hynny, dwi'n golygu fod yna Tuk tuks (fel y rickshaw's/wallah yn India) yma ym mhobman sy'n gofyn am i chi os yda chi isho lifft i rhywle, ond ma nhw yn lot llai garw a ddim yn eich harrassio chi am bum munud fel oedd yn digwydd yn India. Na ydi Na iddyn nhw, (wel, 'Nai Chai' i fod yn gywir). Felly ma'r bobl yn wahanol, llawer mwy croesawgar, ffeind a gonast i weld. Er fod rhan fwyaf o'r bobl yma hefo dealltwriaeth tebyg i blentyn dwy-flwydd oed o'r Saesneg, mae yna swyddogion twristiaeth arbennig mewn safleuoedd cyhoeddus fel y maes awyrenau, trennau a bysus, felly mai'n bosib i Gymro hefo mentality hogyn dwy-flwydd oed ffendio'i ffordd yn ddigon di drafferth! Ma'r wlad wedi arfer a twristiaeth ac yn fwy na parod i dderbyn twristiaid, yn wahanol i India lle onin teimlo mod i'n sticio allan fel iar yn y glaw, neb yn trio fy helpu a pawb yn trio nghonio i! Ond yn debyg i India mae yna dlodi amlwg yma (ond nid i'r ru'n raddau ogwbl) a dylswch chi ddim yfed y dwr! Ma'r trennau yn debyg iawn i rai yn India hefyd, hynafol a hir!

Penderfynais ddal y tren nos o Bangkok i lawr i dde Thailand, angen chill am chydig o ddwrnodia a ddim isho bod mewn dinas brysur. Oni ddim yn siwr lle yn union oni am fynd, ond gyda dyrniad o daflenni gwybodaeth ar yr ynysoedd ac arfordir deheuol neidiais ar y dren i Surat Thani. Ma gwibio drwy'r wlad yng nghanol y nos mewn sleeper train yn brofiad gwych, ges i'r bync top!!! Y ffenestri gyd yn gorad a'r gwynt cynnes yn dod drwy y ffenestr ar nos yn ddu fel bol buwch, gwych! Pawb wedi ymlacio ac yn mwynhau scwrs a peint cyn setlo lawr am y noson a taith o tua 11 awr o'm mlaen. Cefais gwmni cwpwl o ogledd Lloegr, rhywle ogwmpas Newcastle oedd yn cysgu yn y gwlau dros y ffordd i mi, a gafon ni seshiwn fwydro hir. Cynnigion nhw os fyswn i'n hoffi mynd hefo nhw i lle oeddan nhw'n mynd, ynys Koa Pha-Ngan gan fod gen i ddim pen pendant i fy nhaith a mod i ar ben fy hyn. Ond ni dderbyniais, er bod nhw'n bobl clen, onin meddwl bysai'n od iawn hangio rownd efo cwpwl am dri dwrnod, fel rhyw gwsberan!

Ar ol darllen y taflenni a chydig o lonely planet y cwpwl, penderfynnais fynd i ynys or enw phuket a prynais docyn yn Surat Thani. Onin disgwyl yn yr orsaf bysus am eitha hir efo criw eitha mawr o bobl, dyma na fys yn cyradd oedd yn mynd i Krabi (oni di darllen am fyma, lle gwych i fynd i ddringo clogwyni, sgwba deifio a kayakio yn ol y son). Nath pawb yn yr orsaf heblaw am dana i godi a mynd ar y bys, "ffwcio hyn" meddyliais "dwim yn disgwyl yn fyma ar ben fy hyn" felly dyma fi'n mynd ar y bys i Krabi. Ac erbyn hyn dwi yna.

Dwi di ffendio bwthwn bach tua 3 munud o'r traeth, gan gerdded, am 300Baht y noson (ma punt yn hafal i 70 Baht). Dim air-con, ond well gen i heb. Dwi di dechrau cassau aircon erbyn hyn, pen dwi'n cerdded mewn i stafell neu fys/tren aircon mewn shorts a crys t mai'n blydi oer! Ma'r tirlun yn wych yma, creigiau anferth a garw yn codi'n serth o'r mor. Traethau tywod gwyn, di bendraw (eira-dywod go iawn, ddim fel Sentosa). A llwythi o ynysoedd bach bach, dirgel i weld tua milltir i ffwrdd o'r traethau. Ynysoedd fel ynys 'Lost'.

Fory dwi'n mynd i gayakio ogwmpas un o'r ynysoedd hyn. Dydd Iau a dydd Gwener dwi mynd i ddeifio sgwba os ma'r tywydd yn caniatau. Nath hi fwrw glaw lot heddiw a ma'r mor yn arw ofnadwy, a ma hi'n gaddo ry'n peth am tua 3 dwrnod yn ol y son, bechod fod gen i ddim surfboard! Y plan ydi mynd yn ol i Bangkok nos wener neu nos sadwrn i gael gweld chydig ar y ddinas fawr ddrwg! Cyn dal yr awyren i Awstralia dydd Llun, dwi'n erdrach mlaen i weld Bwch.

O ia, just iawn i mi anghofio! Ma'r lle dwi'n aros ac y bar drost y lon yn cael ei redeg gan dri brawd Thai cnau ond cyfeillgar iawn yn eu hugeiniau, ma un ohonynt yn rasta, felly wrth gwrs mae yna lynia o Bob Marley mhobman yn y bar! Ar ol i mi gyrradd a cael cawod pnawnma, nes i eistedd hefo'r hogia o dan y dent yma yn y bar yn mochel rhag y glaw, oedd yn tresho ar y pryd. Oddan ni'n cal sgwrs a dyma'r gitars yn dod allan a llyfr caneuon rock Thai a llyfr caneuon Beatles, sweet! Oedd un gitar yn gitar Yahama (210 dwi meddwl), a'r llall yn gitar ond wedi llinynu a llinynau bas a dyma ni yn dechrau canu Let It Be a Stand by Me tra oedd y glaw yn curo i lawr. Dwi'n gobeithio dysgu can Gymraeg iddyn nhw cyn i mi adael! Wedi i'r glaw gilio es i gerdded o gwmpas y traethau a'r pentref i gal fy mearings, dwi wastad yn meddwl na'r ffordd gorau i ddod i nabod rhywle ydi cal argoll a wedyn trio ffendio'r ffor yn ol. Map? dwi'm angan map!

Hwyl am y tro! dwi mynd i ddal fyny efo'r cwsg dwi heb fod yn ei gael dros y deuddydd dwytha.

Comments:
Yndi, mai'n bwrw tua awr o 3 tan 4 fel arfer. Mai'n glos iawn yma a rhai dwrnodia yn llwyr gymylog hefo chydig o ysbeidiau heulog! Nes i ddim mynd i ynys james bond. Ma na ynys gerllaw, lle nathon nhw ffilmio 'The Beach', ffilm Loenardo deCaprio. Nes i fynd i scwba difio yn fana ond ges i ddim cyfle i weld 'the beach' ei hun.
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?