Monday, October 15, 2007

 

germany

trio bookio tocynau i fynd i weld germany vs cymru yn yr almaen 21 - 11-2007 . mae o'n anodd - ryanair yn gwrthod cymeryd maestro's dwi'n meddwl.
gyda llaw - os ma rhywyn yn mynd i'r gem, yn Frankfurt (yng ngorllewin yr Almaen) mae'r gem! mae yna ddau Frankfurt yn yr Almaen.

oedd y penwythnos yn hwyl nes i fynd i valle camonica, dyffryn tua 2 awr ar y tren i'r gogledd o Brescia. yno mae'r casgriad mwyaf o rock inscriptions (inscrizione rocha dwi'n meddwl). oedd o reit ddiddorol ond roedd y guide yn esbonio popeth yn eidaleg a felly roedd yr erasmus kids eraill yn cyfieithu hyn i mi. mae yna rhai o'r erasmus yma yn siarad tua 3 iaith yn rhugl. dani'n siarad 2 yn rhugl, sydd yn eitha da. ond yn ysgol roedd gwersi ffrangeg yn joc a doedd na neb yn cymryd y pwnc o ddifri, i ddeud gwir does na ddim brwdfrydedd i ddysgu ieithoedd ym mhrydain, bechod. weithiau mae cymraeg yn helpu wrth ddysgu eidaleg rhywfaint, gan fod yna rai geiriau yn debyg. e.e. heddiw onin gwneud fy ngwaith cartref ar gyfer y wers yfory (rhannau o'r corff) ac roedd yna air - 'braccio' (neu rhywbeth tebyg) ac onin meddwl hmmm.... braich efallai - nes i edrych yn y geiriadur... a roeddwn yn gywir! mae hyn yn digwydd yn eitha aml, ond weithiau (nid cyn amlad) mae yna eiriau eidaleg sydd yn debyg i'r geiriau saesneg.
ond y peth rhyfadd yw.... mae nifer o ieithoedd sydd wedi tarddu o'r lladin yn ewrop : eidaleg, spaeneg, potiwgeaidd, romanian, ffrangeg, a mwy... mae spaeneg a romanian yn debyg iawn iawn i'r eidaleg, mor debyg fod y spaenwyr a romanians yn gallu dallt eidaleg ond ddim yn gallu siarad o'n iawn, ond pen maen't yn siarad eu mamiaith gyda'r eidalwyr, mae'r eidalwyr yn gallu dallt nhw ac ateb yn ol mewn eidaleg. da de!
felly mae modd iddynt gyfathrebu oleiaf.


ia... eniwe, 10 euro nath y trip gostio. sef tua 6 punt. roedd hyn yn cynnwys bwyd, llety, tren, ac y tour.... roedd y prifysgol wedi cyfrannu tuag at y trip. dwi ddim yn meddwl fysa caerdydd yn gwneud rhywbeth fel hyn i'w erasmus rhywsut. yn y nos roedd yna barti yn y hostel, onin teimlo yn flinedig iawn felly nes i fynd i gwely tua 1 . mae hyn yn gynnar - gan fod y gweddill wedi arfer mynd allan yn spaen ayyb tan tua 7 yn y bora (dyma pryd ma'r clubs yn cau yn ol y son!)

eniwe, son am wedi blino, dwi wedi blino rwan ac am fynd i weld beth ma'R Arglwydd yn neud. clinics am 9 bora fory
ciao vediamo

Comments:
Ti 'di troi'n ffynnon o wybodaeth dros nos!!
 
Helo Rhys! Wedi cael siawns i ddarllen dy flog amser cinio heddiw yn gwaith or diwedd! Ambell i stori doniol iawn gen ti - OND - ti 'di clwad am baragraffu a rhoi CAPITALS ar ddechrau brawddeg newydd? Keyboards yr EIdalwyr sy'n rong ia?
 
ia, ma'r keyboards yn wahanol yn fyma sti. tro cyntaf i mi ddefnyddio cyfrifiadur nath o gymeryd hannar awr i mi ffendio... shit lle mae o... hold on... @ , dyna fo, (hi hi hi)
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?