Friday, October 12, 2007

 

I'm sleeping with Jesus !

i fod yn onest, tydi'r teitl ddim angen ochenaid ??? un o'r rhain !!!!!! achos ma'r frawddeg yn hynod gryf hebddo. eniwe, dwi ddim yn cofio be nesh i sgwennu tro dwytha, rhywbeth am gyradd yn ddiogel ia? onin meddwl fysa fo'n hawdd cadw blog yma, ond tydio ddim, dwi wastad hefo rhywbeth gwell i neud. mae gennai fynediad i'r we yma yn ISU, fy nghartref newydd "mia casa" mewn stafell gyfrifiaduron ar y llawr gwaelod. ar y penwythnos ma'r blydi lle wedi cau! pam? dwi ddim yn gwbod!

ond... mae na lot o bethau yn yr eidal sydd ddim yn gwneud dim synnwyr, e.e. tu allan i'r banc mae yna lockers, ble rhaid cadw pob bag neu cot ac yn y blaen, a mynd i mewn trwy dau ddrws wedi eu rheoli, mae o'n deimlad od siarad a'r bancwr heb haenen o wydr rhwngthom, ond bysa fo'n hawdd cerdded mewn gyda gwn neu cyllell mewn poced! rhywbeth arall... ar ddydd llun mae yna llawer o siopau ar gau! pob dydd mae y siopau yn cau rhwng 1300 a 1500 hydynoed dydd sadwrn! chwara teg... ma nhw'n gwbod sut i ymlacio

beth bynnag, Iesu, yr argwydd, mab Duw, dynna yw enw y hogyn spaeneg yr ydwyf yn rhannu stafell gyda rwan. felly, ie! dwi yn cysgu hefo'r Iesu. datganiad yr ydwyf yn or-hoff o ddatgelu !!! felly ma'n spaeneg yn gwella, ac eidaleg! a ma saesneg yr Iesu yn gwella hefyd. dio ddim yn dallt cymraeg. mae o'n foi iawn gyda llaw... wel wrthgwrs gyda enw fel'na!

dydd iau dwytha neshi symud. gadael neuaddau francescanum am byth! ond dwi'n hoff o'r lle newydd, o'r enw ISU! yma mae yna gaeau peldroed, cyrtiau tennis, lle bwyta hyfryd, ac felly mae bywyd yn dda! onin meddwl fysa fo'n od iawn rhannu hefo hogyn arall, mae'n gwlau yn agos iawn (llai na hanner metr!) ond dio ddim rhy ddrwg ogwbl. erstalwm onin rhannu gyda Ioan nes iddo gael stafell ei hun pen oni yn tua 10 mlwydd oed, ers hynna dwi heb rhannu stafall hefo hogyn arall. yn ol y son... mae o'n rhywbeth arferol i wneud yma yn yr eidal ymysg myfyrwyr. wel... dwi'n meddwl bo' nhw'n rhannu yn pantycelun tydynt? ond fel ma nhw'n deud - aberystwyth... aberth am byth.

nesh i brynnu beic. wedyn dwrnod cyn ech-ddoe nath y beic gael ei ddwyn. felly ech-ddoe prynnais feic newydd. nesh i fynd i'r orsaf heddlu i ddweud wrthynt am y trychineb. profiad poenus trahwnt ond roeddynt yn dda iawn. union ry'n beic nesh i brynnu ond wsos yma roedd yn a 30% off (gratis), diolch! diolch yn fawr!

eniwe dwi'n mynd am ginio rwan ciao!

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?