Wednesday, October 03, 2007

 

wedi cyraedd Brescia yn ddiogel

Ella fod hwn braidd yn hwyr. heddiw yw'r 3ydd o Hydref, cyrhaeddais ar yr 20ed o fis Medi. Ond ma na lot o betha i neud yma. wsos dwytha nes i drio bloggio ond oedd y cyfrifiadur yn cloi pob tro oeddwn i'n ceisio. dwi wedi llwyddo dod o hyd i gyfrifiadur sy'n gadal i mi floggio o'r diwadd!

Dwi wedi llwyddo yn yr arholiadau! nath neb yn y flwyddyn fethu, 58 wedi pasio. does na neb wedi methu ers i'r curriculum newydd ddechrau, rhyfadd de?

wsos dwytha nes i neud lot o bethau. y broblem ydi - tydw i ddim yn cofio popeth. mae'n cymryd amsar i setlo mewn yn rhywle tydi, a wsos dwytha nes i neud hynna, ymmm.... setlo mewn.
Cyrhaeddais Brescia pnawn dydd iau, cawsom ein cyfarfod yn yr orsaf dren gan ddau fyfyriwr deintyddiaeth o'r bumed flwyddyn yma, Carlotta (fatha band cynta' elin fflur) a Stefano. Yn y pnawn aethon nhw a ni i weld y clinic. dwrnod wedyn aethon nhw a ni i sortio papurau accommadation ac erasmus allan a nifer o fanion eraill, felly diwrnod diddorol uffernol!! wedyn roedd hi'n benwythnos!!!! wehai... bu rhaid i rhian a fi esgusodi ein hunain o barti erasmus nos iau gan ein bod ni wedi blino'n lan, felly nos wener oeddan ni yn fresh a barod i fynd allan. ond, roedd pawb arall yn knackered ar ol y nos wener - felly nathon ni just gwylio gem iwerddon a ffrainc gyda'r albanwyr a cal peint ddistaw yn piazza arnaldo! ***piazza arnaldo; ydy sgwar arnaldo, lle posh uffernol, ma peint yn costio 5 euro a mae pawb wedi gwysgo yn smart, lle swank iawn i weld.
I ddeud y gwir tydw i ddim yn cofio be nes i neud am gweddill y weekend. nes i fynd allan nos sadwrn efo gweddill yr erasmus crew - dwi'n cofio hynna oleia'. a nes i gerddad lot ogwmpas y ddinas, fatha dwi wedi ddeud o'r blaen - y ffordd gorau i ddod i nabod dinas ydi i gael ar goll ynddi hi a mae'n hawdd gwneud hyn yn brescia! ma'r ddinas ychydig yn fwy na caerdydd dwi'n meddwl. ond mai'n anodd deud achod bod y subburbs just mynd on am oesoedd. ma'r computer room yn cau rwan ciao

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?