Monday, October 22, 2007

 

y stori hyd yn hyn

helo,
ok, wsos dwytha. ar ol y trip valle camoniaca.

dydd llun... dim o bwys o bwys... ond dwi'n meddwl mai hwn oedd y dwrnod nes i fynd i'r clinic paedodontics a cael sgwrs efo hogyn eidaleg oedd yn dysgu saesneg yn yr ysgol. dyma ni'n cymeryd tyrna i ofyn wrth ein gilydd, 'beth ydi dy enw di?' 'faint oed wti?' 'lle wti'n dod o?' a.y.y.b yn ein tafod estron. nes i fwynhau hyn.

dydd mawrth... es ar y clinic oral surge a tynnu daint am y tro cyntaf yn yr eidal. yn y pnawn, gwers eidaleg. ac yn y nos, nes i fynd i'r clinic emergency (pronto soccorso) a ges i neud mwy o ddeintyddiaeth ar drigolion anffodus Brescia! nes i adal y clinic am 2300 a mynd i gwrdd a rhian y sbaenwyr ac yr albanwyr mewn tafarn o'r enw leo neu lio bar, sydd yn debyg iawn i clwb ifor ond ddim yn glwb nos, dim ond pub. Felly, be dwi'n olygu ydi fod o'n fudur, dingy, llond o gymeriadau od, ond yn chwarae miwsic da - gret! (ond does dim llawr dawnsio).

wedyn... dydd mercher, nath Rhian a fi drio mynd i wers ddeintyddiaeth yn y pnawn (wedi blino yn y bora), ond nath o gal ei ganslo, am y pedwerydd tro!!! wedyn, aethom ni i'r stryd a prynais gitar fach crap am 40 euro. pen dwi'n sdrymio y peth, dwi'n ofn iddo syrthio i ddarnau. ond mae o'n gwneud swn da wrth finger pluckio.

Dydd iau... es i mewn i clinic oral surge eto dwi'n meddwl. wedyn yn y pnawn, gwers eidaleg. wedyn yn y nos es i allan i seconda classe. ar ol yfad yn fflat fy ffrind spaeneg juan antonio neu 'juan-an' fel ei ffug enw. ond gan fod 'j' yn cael ei ddweud fel yr 'ch' gymraeg yn spaeneg, ei enw ydi 'Chwanan'... sydd dim ond yn diddori fi a rhian yn Brescia. Yn anffodus nes i ddim llwyddo mynd i mewn i seconda klasse, gan fod yna giw anfarth y tu allan. dyma'r math o glwb sy'n gadael y merchaid i gyd i mewn yn rhatach ac heb giwio, ond rhaid i'r dynion i gyd ddisgwyl tu allan yn rhynnu... blydi sexists. dim ots, nath yna chydig o hogia ddim llwyddo cal i mewn felly aethom ni i dy Adrian (sbaenwr arall), a cael parti bach yn fana. yn anffodus nes i syrthio i gysgu ar y soffa a dihunno y bora wedyn, rhy hwyr i fynd ar clinic.

Nos wener... nath rhian a fi fynd i dy 'chwanan' ac Isabel a cwcio bwyd iddyn nhw, (rhian nath wneud y cwcio i gyd). chwara teg.

dydd sadwrn... nes i reidio meic holl y ffordd i Lago di Garda, o Brescia i dref o'r enw Desensano del Garda. Ar y ffordd cefais seibiant mewn pentre o'r enw Lonato sydd yn berchen castell normanaidd a golygfa eitha da o Lago di Garda. ma'r Eidal yn llond adeiladau prydferth ac hynnafol, ond ma Cymru yn llond Castelli normanaidd tydyn, a doedd hwn ddim patch ar gastell cnarfon. Yn y nos, roedd Chwanan wedi trefnu i ni (fi, rhian, adrian, isabel, ac ei hun) fynd i barti ffrind i un o'r tiwtoriaid eidaleg.
(gyda llaw... yma, mae'r gair tiwtor yn golygu myfyriwr eidaleg sydd wedi gwirfoddoli neu gyda'r swydd o wneud pethau gyda y stiwdants erasmus eraill... fel aRFER, wps caps lock, ahh!!! maent yn stydio ieithoedd, neu hefo diddordeb mewn dysgu ieithoedd.)
Dyma ni'n mynd i fflat rhyw foi a'i gariad tua 20 kilomedr yn y wlad tu allan i Brescia. roedd cariad y boi yn sbaenes, ac felly dyma oedd y rheswm fod chwanan, isabel, ac adrian yn y parti. roeddwn i a rhian yn y parti oherwydd bod chwanan wedi trefnu i ni ddod. Ac felly roeddwn i yna, gyda rhian, mewn parti yn nhy rhyw Eidalwr ble roedd pawb yn y parti yn unai yn siarad Eidaleg neu yn siarad Sbaeneg. Ac i ddechrau o'n i'n meddwl... shit
ond... pen dwi yn y sefyllfa yma. ble ma rhaid i mi siarad eidaleg, dwi'n gallu gwneud yn olew. gyda body language a defnydd brawychus o'r berfau (dwi dal methu siarad yn y dyfodol neu y gorffenol), dwi'n gwneud yn olew.
ond ia... os dwi'n hollol onest, nath y sangria helpu hefyd!

eniwe... dydd sul, hangover , dim byd diddorol.

dydd llun... llawer o ddeintyddiaeth a dysgu eidaleg yn y pnawn.

dydd mawrth... ydi yfory so nai adal chi wbod sut mae o'n mynd.

Comments:
Sgwbi - y sangria a dy endless charm dwi;n siwr ddaru helpu chdi allan yn y parti! Er mor ddiddorol ydi dy straeon am gastelli etc, y gossip da ni isho glwad gen ti! Bob dim yn iawn yn Gaerdydd de - dim gosip fama...mynd i Lundain dydd Sadwrn i watchad y SFA ar fy mhenblwydd. Sian yn dod lawr mewn pythefnos i ddathlu penblwydd fi, Nerys, tref a Caryl. Cadwa flogio - ma na bobl (SAD) fel fi yn ei dddarllen!!
 
hei, gobeithio gewch chi hwyl, rhyw fath o re-union!
er dy fod yn meddwl fod fi'n rhyw fath o exibitionist anna... tydw i ddim am ddatgelu BOB DIM ar yr internet, fydd rhaid i chdi just disgwyl tan dolig bydd!
SFA Ok dwi yn genfigennus.
 
Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?